Ynghylch

Ynghylch Ewch â Mi Hefyd! (Take Me Too!)

Mae Ewch â Mi Hefyd! (Take Me Too!) yn cysylltu rhwng pobl sydd angen cludiant a rhywun sy’n mynd yr un ffordd, ac sy’n falch o roi lifft iddynt. Gyda’n gilydd gallwn helpu cysylltu Sir Benfro!

Ein nod yw i bawb yn Sir Benfro allu gwneud y teithiau angenrheidiol ac yr hoffent eu gwneud. Os nad oes cludiant cyhoeddus neu dacsi ar gael yn y fan a’r lle mae ei angen (neu os yw arian yn brin) byddwn yn ceisio cael hyd i rywun sy’n gallu cynnig lifft. Fel hyn, gallwn helpu’n gilydd, arbed arian (nid yw’n rhy ddrud i’r teithiwr ac mae’r gyrrwr yn cael ychydig o gymorth gyda chost y daith hefyd) a helpu achub y blaned yr un pryd! Mae hefyd yn helpu inni gyfarfod pobl newydd ac yn creu cymunedau hapusach, mwy cysylltiedig i ni oll fyw ynddynt.

Mae Ewch â Mi Hefyd! yn rhan fechan o fudiad rhannu teithiau sy’n tyfu’n fyd-eang. Bu pobl yn rhannu teithiau yn Sir Benfro ers ymhell cyn y car modur, ond nid yw pawb yn gwybod i

bwy allant ofyn am lifft neu i bwy i gynnig lifft. Rydym yn anelu at geisio llenwi’r bwlch hwnnw.

Ydych chi’n barod i ymuno â ni? Cliciwch yma i ymuno

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, fel rhan o’i Raglen Cefn Gwlad Cymru, sy’n talu am Ewch â Mi Hefyd!