Gyrwyr

Gyrwyr yw’r allwedd i Ewch â Mi Hefyd! Allwch chi helpu?

Rydym yn chwilio am bobl o bob rhan o Sir Benfro sy’n barod i gynnig y seddau dros ben yn eu car i bobl sydd angen lifft.

I ddod yn yrrwr Ewch â Mi Hefyd! rhaid i chi:

  • fod yn 18 oed neu hŷn;
  • ddal trwydded yrru lawn ddilys, gyda dim mwy na 6 o bwyntiau cosb ar eich trwydded am fân dtramgwyddau gyrru;
  • fod â char ar gael gyda threth, yswiriant a MOT cyfredol;
  • fod yn byw yn Sir Benfro neu’n teithio’n rheolaidd yn ac o gwmpas y sir.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru fel gyrrwr Ewch â Mi Hefyd! byddwn yn cysylltu â chi os cawn gais am daith y gallech efallai helpu gyda hi. Ni fyddwn yn disgwyl i chi wneud taith arbennig ond, os ydych yn mynd y ffordd honno beth bynnag, efallai yr hoffech gynnig lifft.

Mae rhoi lifftiau’n rhywbeth gwych i’w wneud i chi a’ch cymuned. Mae teithwyr wir yn gwerthfawrogi eich cymorth a byddant yn disgwyl talu eu rhan, a byddwch chwithau’n cael cyfraniad tuag at gost y daith - bydd Ewch â Mi Hefyd! yn anfon awgrym o faint atoch eich dau ar sail pellter y daith, fel bod pawb yn glir cyn i’r lifft ddigwydd.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru gydag Ewch â Mi Hefyd! gallwch anfon eich ceisiadau teithio eich hun hefyd. Gwych os nad yw eich car ar gael, eich bod yn methu gyrru, neu ddim ond eisiau cwmni rhywun arall ar daith.

Ydych chi’n barod i ymuno â ni? Cliciwch yma i ymuno

 

Po fwyaf o yrwyr sy’n ymuno, mwyaf tebygol y gallwn gael hyd i daith i gyfateb i bob cais, a’r mwyaf y gallwn rannu’r teithiau. Helpwch ni wneud i hyn weithio yn Sir Benfro – cofiwch sôn am Ewch â Mi Hefyd! wrth bawb a wyddoch. Os oes gennych rywle lle gallwch roi posteri neu gynnig taflenni, os oes gennych awgrymiadau ynghylch sut allwn ni hybu Ewch â Mi Hefyd! neu os hoffech i ni ddod i’ch grŵp neu glwb i sôn am y prosiect, cofiwch gysylltu â ni.

Gallwch hefyd lawrlwytho a rhannu deunyddiau marchnata yma.