Chwalu 7 anwiredd am Ewch â Mi Hefyd! BUSTED!

#1 Does dim rhaid gwneud teithiau rheolaidd i fod o gymorth i bobl - Fel arfer, bydd pobl yn rhannu lifftiau i'r gwaith ac adre, gan ddilyn llwybrau ac amseroedd rheolaidd... Ond mae Ewch â Mi Hefyd! yn wahanol. Er y gallwch ei ddefnyddio ar gyfer teithiau gwaith, mae'n gweithio ar gyfer pob math o deithiau eraill hefyd. Felly hyd yn oed os ydych ond yn gwneud ambell i drip achlysurol efallai y bydd rhywun yn wirioneddol ddiolchgar i'w rhannu gyda chi.

 

#2 Nid mater o gyrraedd y gwaith yn unig yw hyn; Mae Ewch â Mi Hefyd! yn ymwneud â bron unrhyw daith - i’r siopau ac yn ôl, at y meddyg, i’r ysbyty, i ymweld â ffrindiau, i'r sinema, i ddigwyddiad, i’r dafarn, i'r traeth, am benwythnos o wyliau - hyd yn oed i'r porthladd neu'r maes awyr!

 

#3 Dydyn ni ddim yn gofyn i chi wneud unrhyw ymrwymiad i deithio pan fyddwch chi'n cofrestru - efallai na fyddwch chi byth yn gofyn am lifft na'i gynnig. Does dim o’i le â hynny - os na ddaw dim byd sy'n addas i chi, mae hynny'n iawn. Yr unig beth yr ydym ni’n ei ofyn yw i chi fod yn agored i’r posibilrwydd o rannu lifft, os yw hynny’n gweddu i'ch siwrneiau ar y pryd. 

 

#4 Does dim rhaid mewngofnodi neu chwilio am geisiadau neu gynigion lifft - byddwn ni’n cysylltu â chi (drwy ffonio, dros neges destun, neu ag e-bost - pa un bynnag sydd orau gennych) a gallwch ymateb mewn ond eiliad neu ddwy.

 

#5 Nid oes angen i chi fod ar-lein i ddefnyddio Ewch â Mi Hefyd! - ond bydd angen i yrwyr roi cyfeiriad e-bost er mwyn i ni  gysylltu gyda gwybodaeth am y gwasanaeth.

 

#6 Mae diogelwch personol a diogelu yn bwysig iawn i ni - Mae'r tîm sy'n cynnal Ewch â Mi Hefyd yn ei ddefnyddio hefyd, ac rydym am i bawb fod yn ddiogel. Bydd ein cyngor ar ddiogelwch yn eich helpu i gadw'n saff ac yn ddiogel, ac rydym yn gwirio trwyddedau gyrwyr, yswiriant, a statws treth car hefyd. Os oes gennych chi ffôn clyfar a’ch bod yn dewis lawrlwytho ein ap, gallwch ddefnyddio'r gallu 'Rwyf Wedi Cyrraedd' i ddweud wrth rywun yr ydych chi'n ymddiried ynddo ble rydych chi, pryd y dylech gyrraedd, ac os ydych chi wedi cyrraedd pen y daith yn ddiogel (ac adref eto, hefyd, os yw hynny'n helpu).

O, ac mae ein cronfa ddata mor ddiogel ag y gall fod - mae ein data personol ni yno hefyd, felly rydym yn sicrhau ei fod wedi'i ddiogelu'n dda iawn!

 

#7 Does dim rhaid i chi fod yn amgylcheddwr brwd, does dim rhaid cael car sydd fel pin mewn papur, does dim rhaid gwneud yr un daith reolaidd, does dim rhaid byw yn Sir Benfro (efallai mai ymweld yn aml fyddwch chi), does dim angen ymrwymo i wneud unrhyw deithiau gydag Ewch â Mi Hefyd (ond os ydych chi, gwych!), does dim angen i chi fod eisiau arbed arian, neu boeni am dagfeydd neu broblemau parcio, neu fod eisiau cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd - er bod y rhain yn rhesymau gwych i rannu teithiau - efallai mai’r unig beth yr ydych am ei wneud yw helpu rhywun allan (fel gyrrwr) neu fynd o A i B (fel teithiwr).

 

Mae llwyth o resymau gwych dros rannu lifft, a manteision gwych! Beth am roi cynnig arni?