Ydych chi’n trefnu achlysur neu’n cyflwyno sioe? Ydych chi wedi meddwl sut mae eich gwesteion / cwsmeriaid yn mynd i’ch cyrraedd – a sut i sicrhau nad yw pobl yn methu dod oherwydd problemau cludiant?
PACTO*, elusen cludiant cymunedol Sir Benfro, sy’n rhedeg Take Me Too! i edrych yn wahanol ar rannu lifftiau yn Sir Benfro. Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol sy’n talu amdanom fel rhan o’i Rhaglen Cefn Gwlad Cymru. Rydym eisiau gweithio gyda chi i helpu cysylltu Sir Benfro a sicrhau na chaiff neb ei gau allan o’r achlysuron a gweithgareddau sy’n digwydd ar draws ein Sir ryfeddol oherwydd diffyg cludiant.
Sut allwn ni weithio gyda’n gilydd?
Mae Take Me Too! yn gweithio trwy greu rhwydwaith o yrwyr sy’n barod i roi lifft i rywun, os ydynt yn mynd yr un ffordd. Pan fyddwn yn derbyn cais am daith, byddwn yn ei anfon i’r gyrwyr perthnasol. Gallwn weithio gyda chi i hybu Take Me Too! i’ch cwsmeriaid presennol, gan greu rhwydwaith parod o bobl sy’n fodlon rhoi lifft i’ch lleoliad neu achlysuron, a’i gwneud yn hawdd ymateb pan fydd rhywun yn gofyn am gludiant.
Siaradwch â ni ynghylch cynnwys gwybodaeth am Take Me Too! ar eich gwefan, taflenni neu bamffledi, neu gysylltu Take Me Too â’ch prosesau archebu. Gallwn roi deunydd hysbysebu i’w dangos yn eich lleoliad, a byddwn yn falch o ddod i sôn wrth eich ymwelwyr am brosiect Take Me Too!
Gallwn hefyd sôn am eich achlysur / lleoliad ar ein gwefan, gan dynnu sylw ein cymuned at beth sy’n digwydd, a gweld bod pobl sy’n cael trafferth gyda chludiant yn ymwybodol y gallai fod modd cael lifft atoch.
Beth yw’r fantais i chi?
Fe all Take Me Too! helpu sicrhau y gallwch gyrraedd y cynulleidfaoedd ehangaf, gan helpu sicrhau na chaiff neb ei eithrio oherwydd diffyg cludiant.
Mae hyn hefyd yn golygu mwy o dinau ar seddau – mwy o incwm i chi!
Byddwn ni’n gofalu am logisteg paru pobl i deithio gyda’i gilydd fel nad oes raid i chi.Mae modd defnyddio Take Me Too! hefyd i annog pawb sy’n dod i’ch achlysur ystyried rhannu lifftiau: peth da os ydych yn malio am yr amgylchedd, a hefyd os yw parcio’n gyfyngedig.
Barod i gael gwybod mwy?
Ymwelwch â’n gwefan yn www.takemetoo.org.uk neu cysylltwch â ni ar hello@takemetoo.org.uk
neu 01437 701123
* PACTO yw Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro.