Saith ffordd y bydd Take Me Too! yn gwella eich bywyd

Ydych chi erioed wedi meddwl am gynnig lifft i rywun, os oes gennych sedd dros ben yn eich cerbyd a chwithau’n mynd y ffordd honno beth bynnag?  

Nid yw rhannu lifftiau gyda dieithriaid yn rhywbeth sy’n gyfarwydd i bawb ond mae hynny i gyd ar fin newid gyda’r Take Me Too! newydd, sy’n lansio yn Sir Benfro’r haf hwn.

Dyma saith o resymau da dros ymuno:

1. Arbed eich ceiniogau.

Gydag awgrym o faint i’w gyfrannu am bob taith ar sail y pellter a deithiwyd, bydd gyrwyr yn cael cymorth tuag at gostau tanwydd ar daith y byddent yn ei gwneud beth bynnag a bydd teithio fforddiadwy ar gael i deithwyr. Os ydych yn mynd i fan lle mae angen i chi dalu am barcio, gallech rannu’r gost honno hefyd ac arbed arian i’r ddwy ochr.

2. Gwneud cymwynas â’r blaned.

Mae teithio ar y cyd yn golygu llai o geir ar y ffordd, llosgi llai o danwydd a llai o allyriadau CO2.

3. Cael gwybod am achlysuron na wyddech amdanynt o’r blaen.

Unwaith y cofrestrwch fel gyrrwr Take Me Too!, byddwn yn anfon ceisiadau am deithiau atoch os byddwn yn credu y gallech helpu – gallai hyn fod ar sail ble byddwch yn arfer teithio neu’r pethau yr hoffwch eu gwneud. Gallech ddod i wybod am rywbeth sy’n digwydd trwy dderbyn neges oddi wrth Take Me Too! bod ar rywun arall angen lifft i gyrraedd yno.  

Ac mae’n beth da cael mwy o dinau ar seddau yn achlysuron Sir Benfro pa un ai ydych yn rhannu lifft neu beidio trwy helpu gwneud Sir Benfro’n lle mwy bywiog i fyw.

4. Byddwch yn cyfarfod pobl newydd ac, yn ôl pob tebyg, yn gwneud cyfeillion newydd!

Mae rhannu lifftiau’n hwyl a chymdeithasol ac yn ffordd wych o gyfarfod pobl o’r un anian – gallech fod yn teithio i’r un gêm bêl-droed, gŵyl neu gynhyrchiad theatr, neu gallech fyw yn yr un ardal a heb fod wedi cyfarfod o’r blaen.

Mae’n debygol iawn y byddwch yn gwneud cyfaill newydd trwy rannu lifftiau, ac mae’n bendant yn gyfle gwych i rwydweithio. Wyddoch chi fyth pwy allech chi gyfarfod!

Ac, os ydych yn bryderus ynghylch teithio gyda rhywun na welsoch o’r blaen, fe allwch chi bob amser gadarnhau’r wybodaeth ar eu proffil Take Me Too! cyn i chi gynnig neu dderbyn lifft.

5. Pwy a ŵyr beth allech chi ddysgu?

Wyddoch chi fyth beth allech chi ddysgu wrth rannu taith â rhywun newydd. O syniadau ar ddiwrnodau allan neu gyrchfannau gwyliau, i wybodaeth leol neu efallai lwybr tarw na wyddech ei fod yno. Mae’n wybodaeth gyffredin yn Sir Benfro nad yr hyn a wyddoch sy’n bwysig ond pwy a wyddoch.

6. Cysylltiadau cymunedol

Bydd Take Me Too! yn helpu eich cysylltu gyda phobl eraill yn eich cymuned. Unwaith y dechreuwch sgwrsio, fe welwch yn aml fod ffyrdd eraill o helpu eich gilydd neu bobl eraill yn eich ardal leol, gan wneud eich cymuned yn lle mwy cyfeillgar i fyw, gyda gwell cysylltiadau.

7. Teimlo’n Dda

Mae’n hysbys bod Sir Benfro eisoes yn lle cyfeillgar iawn, ond dychmygwch wir sut le fyddai’r sir pe bai mwy o bobl yn helpu’i gilydd. Teimlwch yn dda trwy dderbyn cais am lifft Take Me Too!, neu gynnig eich taith. Wedi’r cyfan, yr hyn a rowch yw’r hyn a gewch – ac fe gewch y boddhad o wneud cymwynas a gwybod eich bod wedi helpu creu sir sy’n llawn o bobl yn teimlo’n dda, gan adfer ffydd yn y ddynoliaeth!

I ymuno neu gael gwybod mwy, ymwelwch ag www.takemetoo.org.uk