Mae Sir Benfro’n lle gwych i fyw a gweithio, ond fe all cludiant fod yn broblem yn enwedig os bydd angen teithio yn yr hwyr neu oddi ar y prif lwybrau bysiau. Mae llawer o bobl yn barod i roi lifft i rywun sy’n methu cael cludiant – ond sut wyddoch chi pwy sydd angen lifft?
Cynllun yw Take Me Too! a luniwyd yn arbennig i fynd i’r afael â’r broblem hon yng nghefn gwlad fel Sir Benfro. Byddwn yn paru rhywun sydd angen cludiant gyda rhywun sy’n mynd yr un ffordd beth bynnag ac sy’n barod i roi lifft. Mae’r cynllun yn gweithio trwy fod â rhwydwaith da o yrwyr y gallwn gysylltu â nhw pan fyddwn yn derbyn cais am daith.
Er enghraifft:
Mae Adam yn byw yn Llangwm ac nid yw’n gyrru. Byddai’n hoffi ymweld â’i fam yn ysbyty Llwyn Helyg ddydd Iau ac yna gwneud tipyn o siopa cyn dal y bws gwasanaeth adref. Mae’n rhoi ei gais am daith ar wefan Take Me Too! ac mae hysbysiad yn mynd allan wedyn i holl yrwyr a allai helpu.
Mae Dorothy’n byw yn Llangwm ac mae wedi derbyn yr hysbysiad ac yn digwydd bod yn mynd i Hwlffordd ar yr un diwrnod. Mae’n clicio ar y ddolen yn yr hysbysiad i weld proffil cyhoeddus Adam ar Take Me Too! i gael gwybod ychydig mwy cyn cynnig lifft iddo. Mae ganddi sedd dros ben yn y car ac mae’n barod i ollwng Adam yn yr ysbyty. Felly, mae’n derbyn y cais am daith a byddwn yn hysbysu Adam.
Derbyniodd Dave yr hysbysiad hefyd. Mae’n byw yn Hook a bydd yn teithio i Hwlffordd ar y dydd Mercher yn hytrach na’r dydd Iau. Os yw Adam yn hyblyg o ran diwrnodau, byddai Dave hefyd yn barod i gynnig lifft iddo. Mae ef hefyd yn ateb y cais am daith, gyda nodyn ynghylch y diwrnod y gall gynnig lifft, a byddwn yn hysbysu Adam.
Mae Mandy’n byw yn Llangwm ac yn derbyn yr hysbysiad. Bydd yn teithio i draeth Niwgwl i fynd â’i chŵn am dro ar yr un diwrnod. Bydd yn mynd drwy Hwlffordd ar ei ffordd i Niwgwl a byddai’n barod i ollwng Adam ar y ffordd. Mae hi hefyd yn ateb y cais am daith.
Mae Elaine wedi derbyn yr hysbysiad hefyd, ond fydd hi ddim yn teithio i unrhyw fan ar y dydd Iau. Felly, mae’n anwybyddu’r hysbysiad.
Yna byddwn yn hysbysu Adam bod 3 o bobl wedi ymateb i’w gais am daith a bydd yn cael dolen i Broffil Cyhoeddus pob un ohonynt ar Take Me Too! Felly fe all Adam ddod i wybod fymryn mwy ynghylch y bobl sydd wedi cynnig lifft iddo. Ar ôl i Adam gael golwg ar bob un, mae’n gweld y bydd cŵn Mandy yn y car gyda hi ac mae’n dewis peidio â theithio gyda hi’r tro hwn. Mae’n gwerthfawrogi cynnig Dave ond rhaid iddo fynd ar y dydd Iau. Cynnig Dorothy yw’r un gorau ac mae’n dewis teithio gyda hi. Yna byddwn yn cysylltu Adam a Dorothy â’i gilydd i drefnu amser a man codi rhyngddynt. Byddwn yn anfon awgrym o’r cyfraniad at y daith i’r ddau ohonynt, ar sail y pellter, y bydd Adam yn ei dalu i Dorothy pan fydd yn ei godi.
Rydym yn chwilio am fwy o yrwyr fel Dorothy, Dave, Mandy ac Elaine i ymuno ag Take Me Too! er mwyn i ni allu helpu mwy o bobl fel Adam. Mae Take Me Too! ar gael ledled Sir Benfro, a byddwn yn ceisio cael hyd i ateb i unrhyw gais am daith – mynd i gig neu sioe, cyrraedd apwyntiad pwysig, mynd i’r gwaith, unrhyw beth!
Po fwyaf o yrwyr sy’n ymuno, gorau fydd ein rhwydwaith o rai sy’n gallu cynnig lifft, gan roi gwell cyfle o gael hyd i rywun ar gyfer pob taith. I gael gwybod mwy, ymwelwch â’n gwefan yn www.takemetoo.org.uk.