PACTO

Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro (PACTO) a ddyfeisiodd Ewch â Mi Hefyd! ac sy’n ei gydgysylltu.

Elusen leol yw PACTO sy’n tynnu ynghyd, yn cryfhau ac yn cynrychioli’r sector cludiant cymunedol yn Sir Benfro. Mae gwasanaethau cludiant cymunedol yn cynorthwyo pobl a grwpiau nad oes ganddynt eu cludiant eu hunain ac sydd heb neu sy’n methu defnyddio gwasanaethau cludiant cyhoeddus confensiynol.

Ochr yn ochr ag Ewch â Mi Hefyd! mae amrywiaeth o wasanaethau cludiant cymunedol ar gael yn Sir Benfro, gan gynnwys y canlynol:

  • Gwasanaethau Ceir Cymdeithasol, lle bydd tîm o wirfoddolwyr yn defnyddio’u ceir eu hunain i fynd â phobl ar deithiau hanfodol fel i apwyntiadau ac i siopa. Y cynllun mwyaf o’r fath yn Sir Benfro yw Ceir Cefn Gwlad sy’n cael ei redeg gan RVS.
  • Gwasanaethau Galw am Gludiant, ym mhrif drefi Sir Benfro a rhai ardaloedd gwledig.
  • Ceir Hygyrch, ar gael gyda gyrrwr gwirfoddol neu logi a’u gyrru’ch hunan.
  • Bysiau mini ar gael at ddefnydd grwpiau cymunedol, gan gynnwys bysiau mini hygyrch i gadeiriau olwynion a bysiau mini bach i’w gyrru gyda thrwydded car cyffredin.
  • Gwasanaeth benthyca sgwter Wheels 2 Work y Ddraig Werdd, i bobl sydd â swydd neu gynnig swydd na allant ei gyrraedd.
  • Cyfeillion Bws, tîm o wirfoddolwyr sy’n helpu pobl sydd angen cymorth ychwanegol i deithio ar gludiant cyhoeddus neu gymunedol.

Mae llawer o’r gwasanaethau hyn yn dibynnu ar wirfoddolwyr – yn arbennig, rydym bob amser yn chwilio am yrwyr ceir gwirfoddol a chyfeillion bws ar hyd a lled Sir Benfro. I gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli, e-bostiwch: hello@pacto.org.uk

I gael rhagor o wybodaeth am PACTO a’r gwasanaethau cludiant cymunedol eraill sydd ar gael yn Sir Benfro, ymwelwch â’n gwefan: www.pacto.org.uk