Sut mae Ewch â Mi Hefyd! yn Gweithio?

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol sy’n talu am Ewch â Mi Hefyd! fel rhan o Raglen Cefn Gwlad Cymru.

Mae’n rhad ac am ddim i ymuno ag Ewch â Mi Hefyd! Nid oes unrhyw dâl am wneud cais am daith a dim terfyn ar nifer y teithiau y gallwch eu trefnu trwy Ewch â Mi Hefyd!

Y cam cyntaf at ddefnyddio Ewch â Mi Hefyd! fel gyrrwr neu deithiwr, yw ymuno. Mae’n ddi-dâl a hawdd ei wneud!

Mae angen i ni gasglu ychydig o fanylion er mwyn bod â’r wybodaeth sydd ei hangen i gynorthwyo gyda’r broses paru teithiau.

Rydym yn cynnig llwybr cychwyn cyflym, sy’n golygu casglu’r lleiaf o wybodaeth angenrheidiol. Pan gewch gyfle, rydym yn argymell eich bod yn cwblhau eich tudalen broffil, i rannu ychydig mwy o wybodaeth amdanoch gyda rhai a allai fod yn bartneriaid teithio a helpu inni dargedu’r broses baru’n well.

Os ydych chi’n yrrwr, bydd angen i ni wneud gwiriad neu ddau ar eich trwydded yrru a statws MOT / treth ffordd eich cerbyd cyn i ni allu cadarnhau eich cofrestriad.

Ydych chi’n barod i ymuno â ni? Cliciwch yma i ymuno

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r broses ymuno, rydych yn barod i fynd!

Os bydd arnoch angen lifft, neu os hoffech rannu cludiant ar daith, gallwch anfon cais am daith, a fydd yn cynnwys gwybodaeth am ble a phryd yr ydych eisiau teithio, ac unrhyw ofynion arbennig sydd gennych. Fe all ceisiadau am deithiau fod i unrhyw fan, ar unrhyw adeg, ac am unrhyw reswm, ond eu bod yn cychwyn neu’n gorffen yn Sir Benfro. Os ydych yn mynd i sioe, gêm chwaraeon, achlysur neu gyrchfan boblogaidd arall, mae’n ddefnyddiol rhoi hynny yn y cais am daith i gael hyd i yrrwr sy’n mynd yno hefyd.

Byddwn yn anfon y cais i’r holl yrwyr y meddyliwn allai helpu. Bydd gyrwyr yn derbyn rhybudd neges syml trwy neges testun, fel e-bost neu dros y ffôn (yn dibynnu ar eu dewis). Gallwch hefyd weld yr holl geisiadau taith presennol ar ein gwefan. Os ydynt yn mynd y ffordd honno, ac yn barod i helpu, byddant yn ymateb i’n neges.

Byddwn yn cysylltu â phwy bynnag a ofynnodd am y daith i ddweud wrthynt fod rhywun wedi cynnig lifft. Os ydych eich dau’n cytuno, byddwn yn eich cysylltu â’ch gilydd a gallwch wneud trefniadau ar gyfer y daith gyda’ch gilydd.

Er bod Take Me Too! yn wasanaeth rhad ac am ddim i gofrestru ar ei gyfer a’i ddefnyddio, rydym yn disgwyl i deithwyr roi cyfraniad i’w gyrrwr tuag at gost pob taith maen nhw’n ei wneud. Dylai’r trefniadau ar gyfer talu gael eu gwneud yn uniongyrchol rhwng y teithiwr a’r gyrrwr.

Gall arian fod yn bwnc lletchwith felly, fel y teithiwr, cofiwch gynnig talu’r swm a awgrymwyd cyn i’r gyrrwr ofyn i chi.

Bydd Take Me Too! yn awgrymu swm i’r ddau ohonoch, yn seiliedig ar filltiroedd y daith, fel bod pawb yn glir cyn i’r lifft ddechrau.

Yr awgrym o faint yw 25c y filltir am y milltiroedd a rannwch.

Mae diogelwch ein haelodau’n flaenoriaeth i Ewch â Mi Hefyd! Gwelwch ein tudalen Diogelwch i gael rhagor o wybodaeth a rhai awgrymiadau diogelwch synnwyr cyffredin.

Ar ôl i chi orffen taith, byddwn yn gwahodd y teithiwr a’r gyrrwr i adael adolygiad o’u partner teithio. Mae modd gweld yr adolygiadau a adawyd ar holl ddefnyddwyr cofrestredig ar eu tudalennau proffil, a bydd yn helpu rhoi hyder i eraill deithio gyda nhw yn y dyfodol.

Os digwydd bod gennych bryder difrifol neu gŵyn am eich partner teithio, cofiwch gysylltu â ni’n uniongyrchol. Byddwn yn atal eu mynediad at Ewch â Mi Hefyd! tra byddwn yn ymchwilio.

Ar adegau prin, fe all trefniadau rhannu lifftiau fynd i’r gwellt. Dydyn ni ddim am i unrhyw deithwyr fod ar y clwt os ydynt hwy, neu eu gyrrwr, yn gorfod gadael yn gynnar oherwydd argyfwng.

Yn y lle cyntaf, dylech bob amser siarad â’ch partner teithio i egluro’r sefyllfa. Mewn argyfwng gwirioneddol, bydd llawer o bobl yn barod i newid eu cynlluniau.

Os ydych ar y clwt heb unrhyw ffordd arall o gyrraedd adref, mae gan Ewch â Mi Hefyd! gysylltiadau â chwmnïau tacsi lleol i gynnig Reid Adref am ddim mewn Argyfwng.