Ewch â Mi Hefyd! Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Polisi Preifatrwydd
Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn disgrifio pa wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch (gan gynnwys gan drydydd partïon megis Facebook), sut rydym yn ei defnyddio, a’r hawliau sydd gennych mewn perthynas â chasglu a defnyddio gwybodaeth.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y polisi preifatrwydd hwn cysylltwch â ni yn hello@takemetoo.org.uk.
Pwy ydym ni
Mae Ewch â Mi Hefyd! yn brosiect sy’n cael ei redeg gan Gymdeithas Sefydliadau Trafnidiaeth Gymunedol Sir Benfro (PACTO), ac yn Elusen Gofrestredig (rhif 1148810) ac yn Gwmni Cyfyngedig drwy Warant (rhif 7825882), y mae ei swyddfa yn 5b Stad yr Hen Ysgol, Heol yr Orsaf, Arberth, Sir Benfro, SA67 7DU.
At ddibenion y Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data ac unrhyw gyfreithiau a rheoliadau cymwys eraill ynglŷn â diogelu data a phreifatrwydd (“Deddfwriaeth Diogelu Data”), PACTO fydd ‘y rheolydd data’ ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol rydym yn penderfynu ar y modd y caiff ei phrosesu ac at ba ddiben.
Sut rydych yn defnyddio fy nata?
Rydym yn casglu dau fath o wybodaeth am ein Haelodau:
- data y mae’r Aelodau yn eu darparu drwy gofrestriad dewisol, gwirfoddol a
- data sy’n cael eu casglu drwy olrhain gwybodaeth sy’n deillio’n bennaf o gyfrif y tudalennau sy’n cael eu gweld a’r teithiau y gwneir cais amdanynt a/neu a gynigir drwy Ewch â Mi Hefyd!
Mae’r wybodaeth hon yn ein galluogi i wella’r ffordd rydym yn teilwra ein nodweddion a’n cynnwys at anghenion yr Aelodau ac yn ein helpu i ddeall demograffeg ein Haelodau yn well. Disgrifir sut rydym yn defnyddio’r data a gasglwn gennych yn fanylach isod.
Pryd rydych yn cofrestru â ni
Mae Gwefan Ewch â Mi Hefyd! yn cynnig cofrestriad gwirfoddol am ddim i Aelodau. Drwy gofrestru, gall Aelodau wneud cais am deithiau, ymateb i geisiadau am deithiau a threfnu teithiau; gallant fanteisio ar yr adnodd personoli (y gallu i hidlo teithiau a barwyd yn unol â’r meini prawf a ddarperir gan ddefnyddiwr); a gallant olygu ceisiadau a wnaed eisoes am deithiau.
Pan fyddwch yn cofrestru â ni, byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i greu’ch cyfrif. Bydd y manylion a gasglwn gennych yn cynnwys eich enw, oedran, rhyw, cod post cartref, rhiff ffôn a chyfeiriad e-bost, ac, os ydych yn yrrwr, rhif eich trwydded yrru a manylion eich cerbyd. Byddwn hefyd yn gofyn am wybodaeth am unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen arnoch o bosibl. Gallwch ddewis ychwanegu mwy o wybodaeth amdanoch chi’ch hun mewn proffil personol, megis ffotograff a dolenni i’ch tudalennau (cyhoeddus) ar Facebook, Twitter neu Instagram. Heblaw am unrhyw wybodaeth rydych wedi dewis ei rhannu ar eich proffil Ewch â Mi Hefyd!, ni fydd modd i aelodau eraill Ewch â Mi Hefyd! weld eich gwybodaeth bersonol. Byddwch yn cael eich adnabod ar y safle yn ôl yr Enw Defnyddiwr a ddewiswyd gennych. Dim ond pan fydd y naill barti a’r llall wedi cytuno i rannu taith y byddwn yn rhyddhau eich manylion cyswllt i Aelod arall.
Mae angen i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol yn y modd hwn er mwyn ymrwymo i’r gwasanaethau rydych wedi gofyn am gael eu derbyn a darparu’r gwasanaethau hynny.
Pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau neu nodweddion ar ein Gwefan
Rydym yn defnyddio eich data i helpu i baru ceisiadau am deithiau â gyrwyr, er mwyn hwyluso teithio a rennir.
Byddwn hefyd yn anfon negeseuon e-bost/SMS/rhybuddion ap yn eich hysbysu am geisiadau perthnasol am deithiau a/neu ymatebion i bostiadau ynglŷn â theithiau penodol.
Mae ein Gwefan hefyd yn galluogi Aelodau i bostio adolygiadau at ei gilydd ynghylch eu profiadau o rannu car, a all fod yn gadarnhaol neu’n negyddol. Cadwn yr hawl i bostio, monitro a dileu adolygiadau ynghylch Aelodau fel y bo’n briodol, yn ein barn ni, er mwyn darparu gwasanaethau i Aelodau ein cymuned.
Gallwn hefyd anfon hysbysiadau o newidiadau penodol i’r Wefan a’r gwasanaeth a gynigir gennym atoch drwy e-bost. Oni fydd angen i ni wneud hynny fel rhan o’r broses o ddarparu’r gwasanaethau, ni fyddwn byth yn rhannu cyfeiriadau e-bost, rhifau ffôn na chodau post unigolion ag unrhyw drydydd partïon, gan gynnwys hysbysebwyr neu bartneriaid, heb eich caniatâd ymlaen llaw.
Mae angen i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol yn y modd hwn er mwyn ymrwymo i’r gwasanaethau rydych wedi gofyn am gael eu derbyn a darparu’r gwasanaethau hynny.
Pan fyddwch yn ein ffonio
Pan fyddwch yn ein ffonio, efallai y byddwn hefyd yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol (eich enw, manylion cyswllt a manylion eraill a rowch i ni yn ystod yr alwad) er mwyn darparu’r gwasanaethau cwsmeriaid rydych wedi gofyn i ni eu darparu. Gallai hyn ddigwydd pan fyddwch yn gofyn i ni gadarnhau manylion eich cyfrif, neu esbonio ein gwasanaethau i chi.
Pan fyddwch wedi mynegi diddordeb yn ein gwasanaethau:
Os ydych wedi dewis derbyn deunyddiau marchnata gennym drwy ein Gwefan, byddwn yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol er enghraifft (eich enw, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad post a rhif ffôn) er mwyn rhoi deunyddiau marchnata i chi yn unol ag unrhyw ddewisiadau rydych wedi ein hysbysu yn eu cylch.
Bydd pob e-bost neu neges a anfonwn atoch at ddibenion marchnata hefyd yn cynnwys cyfarwyddiadau ynglŷn â sut i ddatdanysgrifio er mwyn peidio â’u derbyn mwyach.
Pan fyddwn yn anfon deunydd marchnata yn y post atoch, rydym yn dibynnu ar ein buddiant dilys i’ch hysbysu am ein cynigion a’n gwasanaethau diweddaraf.
Nid oes unrhyw rwymedigaeth arnoch i roi’ch data personol i ni at ddibenion marchnata.
Gallwch ddweud wrthym nad ydych am i’ch gwybodaeth bersonol gael ei phrosesu yn y modd hwn ar unrhyw adeg drwy gysylltu â ni yn hello@takemetoo.org.uk neu, lle y bo’n berthnasol, drwy ddilyn y ddolen i ddatdanysgrifio a ddangosir ym mhob deunydd marchnata a dderbyniwch gennym. Gallwch hefyd ddatdanysgrifio drwy reoli eich gosodiadau yn yr adran “Gosodiadau’r Cyfrif” ar ein llwyfan ar-lein.
Gwella ein safle:
Byddwn hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i roi profiad mwy effeithiol i chi fel defnyddiwr (megis drwy arddangos teithiau posibl neu opsiynau rhannu car a fydd o ddiddordeb i chi, yn ein barn ni, a hynny’n seiliedig ar eich lleoliad neu’ch hanes teithio blaenorol).
Mae’r defnydd a wnawn o’ch gwybodaeth yn y modd hwn yn golygu y bydd eich profiad o’n safle yn fwy addas i chi, ac y gall yr opsiynau a’r argymhellion a welwch ar ein safle fod yn wahanol i rywun sy’n defnyddio’r un safle ac y mae ganddo hanes teithio neu arferion pori gwahanol.
Byddwn hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn gwneud ein safle yn fwy diogel, a gweinyddu ein safle ac ar gyfer gweithrediadau mewnol, gan gynnwys datrys problemau, dadansoddi data, profi, ymchwil, ac at ddibenion ystadegol.
Rydym yn prosesu eich data am y rheswm hwn am fod gennym fuddiant dilys i roi’r profiad gorau y gallwn i chi, a sicrhau bod yn safle yn parhau’n ddiogel.
Gallwch ein hatal rhag defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y modd hwn drwy ddefnyddio’r nodwedd ‘do not track’ yn eich porrwr ar y rhyngrwyd. Os ydych yn defnyddio’r nodwedd peidio ag olrhain, efallai y bydd ein safle yn llai addas i’ch anghenion a’ch dewisiadau.
Beth am wybodaeth dechnegol a dadansoddeg?
Pan fyddwch yn ymweld â’n safle byddwn yn casglu’r wybodaeth ganlynol yn awtomatig:
- gwybodaeth dechnegol, gan gynnwys cyfeiriad protocol y Rhyngrwyd a ddefnyddir i gysylltu’ch cyfrifiadur â’r rhyngrwyd, eich gwybodaeth fewngofnodi, y math o borrwr a’r fersiwn, lleoliad parth amser, mathau o ategion porrwr a’u fersiynau, cydraniad sgrin, system a llwyfan gweithredu; a
- gwybodaeth am eich ymweliad, gan gynnwys y Lleolwyr Adnoddau Unffurf llawn, llif clicio i’n safle, drwyddo ac oddi yno (gan gynnwys dyddiad ac amser), amseroedd ymateb tudalennau, gwallau lawrlwytho, hyd ymweliadau â thudalennau penodol, gwybodaeth am ryngweithio â thudalennau (megis sgrolio, cliciau, a symud llygoden drosodd) a dulliau a ddefnyddir i bori oddi ar y dudalen.
- Gallwn gasglu gwybodaeth am y dyfeisiau a ddefnyddiwch i gyrchu ein gwasanaethau, gan gynnwys modelau caledwedd, systemau a fersiynau gweithredu, meddalwedd, enwau a fersiynau ffeiliau, dewis ieithoedd, dynodwyr dyfais unigryw, dynodwyr hysbysebu, rhifau cyfresol, gwybodaeth am symudiadau dyfeisiau a gwybodaeth am rwydweithiau symudol.
Os byddwch yn methu â rhoi Gwybodaeth Bersonol i ni:
Rydych bob amser yn cadw’r hawl i beidio â rhoi eich gwybodaeth bersonol, ond gall hyn effeithio ar y ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau.
Lle mae angen i ni gasglu gwybodaeth bersonol yn ôl y gyfraith, neu o dan delerau contract rhyngom ni a chi ac rydych yn methu â rhoi’r data hynny pan ofynnir amdanynt, efallai na fyddwn yn gallu cyflawni’r contract sydd gennym neu rydym yn ceisio ymrwymo iddo â chi. Os felly, efallai y bydd yn rhaid i ni ganslo gwasanaeth sydd gennych gyda ni ond byddwn yn eich hysbysu os digwydd hyn ar y pryd.
Ble y bydd fy nata yn cael eu storio?
Bydd y data a gasglwn gennych yn cael eu storio mewn lleoliad diogel yn y DU.
Mae’r holl wybodaeth a roddwch i ni yn cael ei storio ar ein gweinyddion diogel neu weinyddion ein his-gontractwyr trydydd parti. Lle rydym wedi rhoi cyfrinair i chi (neu lle rydych wedi dewis cyfrinair) sy’n eich galluogi i gyrchu rhannau penodol o’n safle, chi sy’n gyfrifol am gadw’r cyfrinair hwn yn gyfrinachol. Mae’n rhaid i chi beidio â rhannu eich cyfrinair â neb arall.
Am faint y byddwn yn cadw eich data?
Dim ond cyhyd ag y bo angen er mwyn cyflawni’r dibenion rydym yn eu casglu ar eu cyfer y byddwn yn cadw eich data personol, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd.
Lle rydych wedi creu cyfrif â ni, byddwn yn cadw eich data tra pery eich aelodaeth er mwyn sicrhau ein bod yn gallu eich cynorthwyo pe bai gennych unrhyw gwestiynau, adborth neu broblemau mewn cysylltiad ag unrhyw un o’n gwasanaethau, neu pe bai unrhyw faterion cyfreithiol yn codi.
Gall Aelodau gau eu cyfrif ar unrhyw adeg drwy gysylltu â ni yn hello@takemetoo.org.uk. Pan fydd eich aelodaeth yn cael ei therfynu byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol am hyd at 24 mis – rydym yn cadw’r wybodaeth bersonol hon o dan sail gyfreithiol buddiannau dilys er mwyn ein galluogi i ymateb i unrhyw ymholiadau gan gyn-gwsmeriaid neu helpu cwsmeriaid sy’n dychwelyd i adfer eu cyfrif aelodaeth. Byddwn yn anonymeiddio unrhyw wybodaeth arall a ddelir gennym ar eich rhan a dim ond er mwyn ei chynnwys wrth ddadansoddi ein gwasanaethau yn ystadegol y byddwn yn ei defnyddio. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol nad oes rhwymedigaeth arnom i’w chadw na ellir ei hanonymeiddio’n ddiogel, yn cael ei dinistrio.
Lle rydym wedi defnyddio eich gwybodaeth bersonol i gysylltu â chi mewn perthynas â deunyddiau marchnata, os dywedwch wrthym nad ydych am dderbyn deunyddiau marchnata gennym mwyach, rydym yn addo rhoi’r gorau i’w hanfon atoch. Os hoffech ddatdanysgrifio er mwyn peidio â derbyn ein deunyddiau marchnata mwyach, byddwn yn tynnu eich gwybodaeth bersonol oddi ar ein cronfa ddata marchnata cyn gynted ag y bo modd.
Lle rydym wedi prosesu eich data am unrhyw reswm arall (megis lle rydych wedi cysylltu â ni i ofyn cwestiwn mewn cysylltiad â’n gwasanaethau) byddwn yn cadw eich data am hyd at 5 mlynedd. Gan ein bod yn dal y data hyn o dan ein buddiannau dilys, mae eich hawliau i wrthwynebu (fel y’u hamlinellir yn “Eich hawl i wrthwynebu o dan gyfraith diogelu data”) yn gymwys yn ôl yr arfer.
Bydd unrhyw ddata sy’n cael eu hadfer at ddibenion datblygu neu brofi yn cael eu hanonymeiddio.
SAIL GYFREITHLON DROS BROSESU
Dim ond cyhyd ag y bydd gennym sail gyfreithiol berthnasol dros brosesu eich gwybodaeth y byddwn yn gwneud hynny. Gwnawn hyn fel arfer er mwyn darparu’r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt gan Ewch â Mi Hefyd! i chi ac oni nodir fel arall, bydd yr holl wybodaeth sy’n cael ei phrosesu yn cael ei phrosesu o dan sail gyfreithiol cyflawni contract.
Dim ond at y dibenion y casglwyd eich gwybodaeth bersonol y byddwn yn ei defnyddio, oni chredwn yn rhesymol y bydd angen i ni ei defnyddio am reswm arall a bod y rheswm hwnnw yn cydweddu â’r diben gwreiddiol. Os credwn nad yw’r diben newydd yn cydweddu â’r diben gwreiddiol dros gasglu gwybodaeth, byddwn yn cynnal Asesiad o’r Effaith ar Breifatrwydd neu’n cysylltu â chi i ofyn am eich caniatâd i brosesu eich gwybodaeth ymhellach. Os hoffech gael esboniad ynghylch sut y bydd prosesu gwybodaeth at ddiben newydd yn cydweddu â’r diben gwreiddiol, cysylltwch â ni yn hello@takemetoo.org.uk.
EICH HAWLIAU O DAN Y RHEOLIADAU CYFFREDINOL AR DDIOGELU DATA
Mae gennych amrywiol hawliau o dan y cyfreithiau diogelu data. Os hoffech arfer yr hawliau hyn, cysylltwch â ni drwy e-bost yn hello@takemetoo.org.uk.
Yr hawl i wrthwynebu
Mae gennych yr hawl i wrthwynebu i ni ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol:
- os ydym yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol yn seiliedig ar ein buddiannau dilys (fel y’u disgrifir yn yr adran uchod ar “Sut rydych yn defnyddio fy nata”). Os gofynnwch i ni roi’r gorau i ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol yn y modd hwn, byddwn yn gwneud hynny oni allwn ddangos i chi fod gennym sail gymhellol pam y dylai’r defnydd a wnawn o’ch gwybodaeth bersonol barhau
- at ddibenion marchnata. Os gofynnwch i ni roi’r gorau i ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol ar y sail hon, byddwn yn gwneud hynny.
Yr hawl i weld
Mae gennych yr hawl hefyd i weld eich gwybodaeth bersonol yr ydym yn ymdrin â hi.
Yr hawl i gywiro
Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw wybodaeth bersonol anghywir a ddelir gennym amdanoch. Mae gennych yr hawl hefyd i ofyn i ni gwblhau unrhyw wybodaeth bersonol anghyflawn a ddelir gennym amdanoch, drwy roi datganiad atodol i ni.
Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
Gallwch gyfyngu ar y ffordd rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol:
- os ydych o’r farn ein bod yn dal gwybodaeth bersonol anghywir amdanoch
- os yw’r ffordd rydym yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol yn torri’r gyfraith, ond nad ydych am i ni ei dileu.
- os nad oes angen i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol mwyach, ond eich bod am i ni ei chadw am resymau cyfreithiol.
- os ydym yn ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol am fod gennym fuddiant dilys (fel y’i disgrifir yn yr adran uchod ar “Sut rydych yn defnyddio fy nata”), a’ch bod wrthi’n gwrthwynebu’r defnydd hwn o’ch gwybodaeth bersonol.
Lle rydych yn arfer eich hawl i gyfyngu ar y ffordd rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, yna dim ond pan gytunwch y byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol, ac eithrio at ddibenion storio ac ymdrin â hawliadau cyfreithiol.
Yr hawl i ddileu
Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol yr ydym yn ymdrin â hi o dan yr amgylchiadau canlynol:
- nid oes angen i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol mwyach am y rhesymau y dywedwyd wrthych ein bod yn ei chasglu
- lle roedd angen i ni gael eich caniatâd i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol ac rydych wedi tynnu eich caniatâd yn ôl
- rydych yn gwrthwynebu i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol ac nid oes genym reswm cymhellol dros barhau i ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol
- wrth ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol rydym wedi torri’r gyfraith
- mae’n rhaid i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol er mwyn cydymffurfio â chyfraith rydym yn ddarostyngedig iddi
Yr hawl i gwyno
Mae gennych yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef yr awdurdod goruchwylio ar gyfer materion diogelu data yng Nghymru a Lloegr.
Dolenni i wefannau allanol
Gall ein safle, o bryd i’w gilydd, gynnwys dolenni i ac o wefannau ein rhwydweithiau partner a sefydliadau eraill. Os dilynwch ddolen i unrhyw un o’r gwefannau hyn neu ddefnyddio ein gwasanaethau, noder eich bod wedi gadael ein safle a bod gan y gwefannau hyn eu polisïau preifatrwydd eu hunain.
Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am y polisïau na’r gwefannau hyn. Edrychwch ar eu polisïau cyn i chi gyflwyno unrhyw wybodaeth bersonol i’r gwefannau hyn.
Pryd y byddwch yn newid eich polisi preifatrwydd?
Byddwn yn adolygu’r polisi hwn o bryd i’w gilydd, yn unol ag unrhyw newidiadau i wasanaeth Ewch â Mi Hefyd! neu gyfreithiau diogelu data.
Bydd unrhyw newidiadau a wnawn i’n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen hon a, lle y bo’n briodol, cewch eich hysbysu drwy e-bost, neges SMS neu drwy neges ar Ap Ewch â Mi Hefyd!
Sut y gallaf gysylltu â chi i roi adborth?
Rydym yn croesawu cwestiynau, sylwadau a cheisiadau ynglŷn â’r polisi preifatrwydd hwn. Cysylltwch â hello@takemetoo.org.uk .
Polisi Cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis a thechnolegau olrhain tebyg i olrhain y gweithgarwch ar ein Gwasanaeth a dal mathau penodol o wybodaeth.
Ffeiliau sy’n dal ychydig o ddata yw cwcis, a gallant gynnwys dynodydd unigryw dienw. Caiff cwcis eu hanfon i’ch porrwr o’r wefan a’u storio ar eich dyfais. Ymhlith y technolegau olrhain eraill a ddefnyddir mae goleuadau, tagiau a sgriptiau i gasglu ac olrhain gwybodaeth a gwella a dadansoddi ein Gwasanaeth.
Gallwch roi cyfarwyddyd i’ch porwr wrthod pob cwci neu nodi pan fydd cwci yn cael ei anfon. Fodd bynnag, os nad ydych yn derbyn cwcis, efallai na fydd modd i chi ddefnyddio rhai rhannau o’n Gwasanaeth.
Ymhlith yr enghreifftiau o Gwcis a ddefnyddir gennym mae:
- Cwcis Sesiwn. Rydym yn defnyddio Cwcis Sesiwn i weithredu ein Gwasanaeth.
- Cwcis Dewisiadau. Rydym yn defnyddio Cwcis Dewisiadau i gofio’ch dewisiadau a’ch gosodiadau amrywiol.
- Cwcis Diogelwch. Rydym yn defnyddio Cwcis Diogelwch at ddibenion diogelwch.
Diweddarwyd y Polisi Preifatrwydd a Chwcis hwn ddiwethaf ar 31 Mawrth 2019.