Rydym yn disgwyl i bawb sy’n ymuno ag Ewch â Mi Hefyd! ddilyn ychydig o reolau sylfaenol. Byddwn yn gofyn i chi gytuno â’r rheolau hyn pan fyddwch yn ymuno gyntaf:
- Parchwch eich gyrrwr/cyd-deithiwr. Fel teithiwr – ac yn sicr fel gyrrwr (!) – peidiwch â threulio’r daith gyfan ar eich ffôn. Gall dynnu sylw eich gyrrwr, yn ogystal â gwneud i chi ymddangos yn anghyfeillgar.
- Bod yn gwrtais a chyfeillgar. Wnewch chi ddim cytuno â phawb ar bopeth, ond lifft yw hwn, ac fe all y rhan fwyaf ohonom gytuno i anghytuno tra byddwn ar daith.
- Bod yn ddibynadwy. Dylech gwrdd yn y lleoliad a’r amser y cytunoch arnynt – os nad ydych chi’n gallu bod yno, neu os byddwch chi’n hwyr, rhowch wybod i’r unigolyn arall cyn gynted â phosibl.
- Cadarnhau nad yw eich gyrrwr / teithiwr yn malio cyn i chi fwyta neu yfed yn y car. Mae hyn yn arbennig o bwysig i deithwyr – rydych yng nghar glân (gobeithio) rhywun arall!
- Peidiwch â thybio bod pawb wrth eu bodd â roc trwm neu gerddoriaeth glasurol. Os yw’r radio / cerddoriaeth ymlaen, holwch a yw’n dderbyniol i’r ddau ohonoch am gyfnod y daith.
- Gyrwyr, cofiwch gadw’r car yn dderbyniol lân, gyrru’n ddiogel ac ystyriol, bod yn gyfeillgar a chwrtais a dweud wrth y teithiwr am unrhyw reolau sylfaenol anghyffredin cyn cytuno ar lifft!
- Teithwyr, cofiwch ofyn cyn newid unrhyw rai o reolyddion y car, gan gynnwys tymheredd a lefel y sain, gofyn cyn ysmygu / mewnanadlu, bwyta neu yfed a chynnig talu cyn gorfod gofyn i chi!
- Byddwch yn ymwybodol, os oes dashcam yn y car, efallai ei fod yn recordio synau y tu mewn i'r cerbyd, fel eich sgyrsiau, yn ogystal â golygfa o'r ffordd o'ch blaen.
Cewch gynnig cyfle i roi ymateb am eich gyrrwr / teithiwr ar ôl pob taith. Os oes gennych unrhyw bryderon difrifol ynghylch defnyddiwr arall, cysylltwch â ni ar unwaith.