Telerau ac Amodau

Telerau ac Amodau Defnydd Ewch â Mi Hefyd!

 

  1. CYFLWYNIAD

Mae ein gwasanaeth paru teithwyr yn eich cysylltu â phobl o’ch cwmpas er mwyn rhannu teithiau drwy deithio gyda’ch gilydd. Gall defnyddwyr cofrestredig Ewch â Mi Hefyd! (y cyfeirir atynt fel “Aelodau”) ofyn am lifft a chynnig lifft, chwilio am gymdeithion a threfnu teithiau ag Aelodau eraill.

Prosiect a gynhelir gan Gymdeithas Sefydliadau Trafnidiaeth Gymunedol Sir Benfro (PACTO) yw Ewch â Mi Hefyd!. Mae PACTO yn Elusen (Rhif Cofrestredig 1148810) ac yn Gwmni Cyfyngedig drwy Warant (Rhif 7825882). Ein swyddfa gofrestredig yw 4 Courtfield Drive, Simpson Cross, Hwlffordd SA62 6EQ.

Yn y Telerau ac Amodau Defnydd hyn:

  1. Mae cyfeiriadau at ‘chi’ ac ‘eich’ yn gyfeiriadau at y person sy’n defnyddio Ewch â Mi Hefyd! a/neu sy’n defnyddio unrhyw rai o’r cyfleusterau ar y cyd ag unrhyw barti a gynrychiolir gan y cyfryw berson.
  2. Mae cyfeiriadau at ‘Ewch â Mi Hefyd!’, ‘ni’, ac ‘ein’ yn gyfeiriadau at y prosiect Ewch â Mi Hefyd! sy’n cael ei redeg gan PACTO.

iii. Os hoffech gysylltu â thîm Ewch â Mi Hefyd! cyfeiriwch at y ddewislen Cysylltu â Ni y gellir dod o hyd iddi yn hawdd ar y Wefan.

 

  1. HYSBYSIAD CYFREITHIOL PWYSIG

Mae’r hysbysiad cyfreithiol hwn yn gymwys i holl gynnwys y Wefan ac i unrhyw ohebiaeth drwy e-bost, SMS neu Ap Ffôn Symudol rhyngom ni a chi.

Darllenwch y Telerau ac Amodau Defnydd hyn yn ofalus cyn defnyddio’r Wefan neu ddod (neu wneud cais i ddod) yn Aelod.

Drwy ddod yn Aelod o Ewch â Mi Hefyd!, rydych yn cytuno i ymrwymo i’r Telerau ac Amodau Defnydd canlynol heb eu haddasu a chydymffurfio â hwy. Os nad ydych yn derbyn y Telerau ac Amodau Defnydd hyn, ni ddylech ddefnyddio Ewch â Mi Hefyd! na chofrestru’n Aelod. Drwy gofrestru’n Aelod o Ewch â Mi Hefyd! a/neu ddefnyddio’r Wefan a/neu ddefnyddio unrhyw rai o’r Cyfleusterau, rydych drwy hyn yn derbyn y Telerau ac Amodau Defnydd hyn.

Cadwn yr hawl i addasu’r Telerau ac Amodau Defnydd ar unrhyw adeg. Caiff unrhyw Aelod wrthod y diwygiadau a gynigir, ond os bydd yn parhau i ddefnyddio’r Gwasanaethau a ddarperir gan y Wefan, bydd hynny’n gyfystyr â derbyn y Telerau ac Amodau Defnydd diwygiedig. Caiff Aelodau nad ydynt yn derbyn yr amodau diwygiedig ddewis cau eu cyfrifon yn unol â’n canllawiau terfynu. Cyfrifoldeb yr Aelod yw bwrw golwg dros y Telerau ac Amodau Defnydd hyn o bryd i’w gilydd.

  1. YMWADIAD

Heb leihau effaith amod 9 o’r Telerau ac Amodau Defnydd hyn noder y canlynol:

Mae’r Wefan yn cynnig ffordd y gall unigolion ddechrau cysylltu â’i gilydd. Rydym yn helpu i hwyluso hyn, ond nid ydym yn darparu gwasanaeth trafnidiaeth i’r Aelodau nac yn honni ein bod yn cynnig cyngor ynglŷn â thrafnidiaeth a/neu gymdeithion addas. Chi yn unig fydd yn gyfrifol am hynny.

Cynghorir defnyddwyr y Wefan, er ein bod yn cynnal rhai gwiriadau ar y bobl sy’n ymuno â’r Wefan, na allwn warantu dilysrwydd llwyr y wybodaeth a roddir ganddynt i ni wrth gofrestru. Felly, dylai’r Aelodau arfer pob gofal priodol a bodloni eu hunain bod y person neu’r personau y maent yn teithio gyda hwy yn addas.

Fe’ch cynghorir chi’n gryf i ddarllen ein Cwestiynau Cyffredin  

 

Ch. DATGANIAD DIOGELWCH 

Rydym yn cymryd preifatrwydd a diogelwch yr Aelodau yn wir o ddifrif, ac rydym yn ymrwymedig i ddiogelu eu preifatrwydd. I’r perwyl hwnnw, gofynnwn i’r Aelodau nodi a dilyn ein Polisi Preifatrwydd, Rheolau’r Ffordd, Awgrymiadau ynglŷn â Diogelwch a darpariaethau’r Telerau ac Amodau Defnydd, yn enwedig (ond heb gyfyngiad i) amod 9 (Cyfyngiad ar Atebolrwydd). Rydym yn dibynnu ar ein Haelodau i ymddwyn yn dda tuag at ei gilydd a chyda pharch ac ystyriaeth a chymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd a’u penderfyniadau eu hunain. Er mwyn gweld y dogfennau eraill y cyfeirir atynt uchod ac amod 9 cliciwch y dolenni canlynol:

 

TELERAU AC AMODAU DEFNYDD

  • DIFFINIADAU A DDEFNYDDIR YN Y TELERAU AC AMODAU DEFNYDD HYN
    1. Mae’r diffiniadau a’r rheolau dehongli yn yr amod 1.1 hwn yn gymwys i’r Telerau ac Amodau Defnydd hyn.
      Ystyr “cyfrif” yw’r cyfrif sy’n cael ei gofrestru gan Aelod ar y Wefan, sy’n cynnwys manylion personol yr Aelod sy’n dal y cyfrif. Deiliad y cyfrif yn unig sy’n gyfrifol am gywirdeb manylion y cyfrif.
      Ystyr “cyfleusterau” yw unrhyw un neu bob un o’r cyfleusterau sydd ar gael i’r Aelodau ar neu drwy’r Wefan, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i restru teithiau, chwilio, trefnu, negeseua, cynlluniau teithio a gwybodaeth am deithio.
      Ystyr “Hawliau Eiddo Deallusol” yw pob patent, hawl i ddyfeisiadau, model defnyddioldeb, hawlfraint a hawl gysylltiedig, nod masnach, nod gwasanaeth, enw masnach, busnes a pharth, hawl mewn diwyg masnachol, hawl mewn ewyllys da neu’r hawl i ddwyn achos am ymhonni ar gam, hawl cystadleuaeth annheg, hawl mewn dyluniadau, hawl mewn meddalwedd gyfrifiadurol, hawl cronfa ddata, hawl topograffi, hawl foesol, hawl mewn gwybodaeth gyfrinachol (gan gynnwys gwybodaeth ymarferol a chyfrinachau masnachol) ac unrhyw hawliau eiddo deallusol eraill ym mhob achos p’un a ydynt wedi’u cofrestru ai peidio a chan gynnwys pob cais am y cyfryw hawliau a phob cais i’w hadnewyddu neu eu hymestyn, a phob hawl debyg neu gyfatebol o ddiogelwch neu fath tebyg neu gyfatebol o ddiogelwch mewn unrhyw ran o’r byd.
      Ystyr “Ewch â Mi Hefyd” yw’r Cyfleusterau a’r Wefan, a’u diben yw hwyluso cysylltiad ar-lein rhwng unigolion sydd am rannu teithiau, drwy hwyluso chwilio am gymdeithion a threfnu teithiau a rennir.
      Ystyr “Aelod” yw unrhyw berson sydd wedi’i gofrestru ar y Wefan ac sydd wedi bodloni ac wedi cwblhau’r holl feysydd gorfodol ar ffurflen gofrestru’r Wefan (a dylid dehongli “Aelodaeth” yn unol â hynny).
      Ystyr “Data Personol” yw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson unigol, yn enwedig lle y gellir adnabod y person, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodydd, megis enw, rhif adnabod, data lleoliad, dynodydd ar-lein, neu at un neu ragor o ffactorau sy’n benodol i hunaniaeth gorfforol, ffisiolegol, genetig, feddyliol, economaidd, ddiwylliannol neu gymdeithasol y person naturiol hwnnw.
      Ystyr “Telerau ac Amodau Defnydd” yw’r Telerau ac Amodau Defnydd hyn ac unrhyw newidiadau neu ddiwygiadau iddynt fel y gellir eu cyhoeddi ar y Wefan yn ôl ein disgresiwn yn unig.
      Ystyr “Gwefan” yw’r wefan ar y Rhyngrwyd neu’r cymhwysiad symudol a weithredir gan Sefydliadau Cymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol Sir Benfro fel rhan o brosiect Ewch â Mi Hefyd! gyda’r URLs Takemetoo.org.uk, Takemetoo.co.uk, Takemetoo.cymru, TM2.org.uk, TM2.cymru, a sharethejourney.org.uk.
    2. Lle y defnyddiwn yr ymadrodd “gan gynnwys” dylid dehongli hwn fel bod yr ymadrodd “heb gyfyngiad” yn dilyn yn union ar ei ôl. O ganlyniad, bydd unrhyw ymadrodd a gyflwynir gan yr ymadroddion gan gynnwys, yn cynnwys, yn enwedig neu unrhyw ymadrodd tebyg yn cael eu dehongli fel petaent yn enghreifftiol ac ni fyddant yn cyfyngu ar ystyr y geiriau sy’n rhagflaenu’r ymadroddion hynny.
    3. Bydd geiriau unigol yn cynnwys y lluosog ac fel arall.
    4. Nid yw penawdau ar amodau, paragraffau, polisïau nac unrhyw ddogfennau a gyhoeddir a/neu sydd ar gael drwy’r Wefan yn effeithio ar y ffordd y dehonglir y Telerau ac Amodau Defnydd hyn.
    5. Weithiau rydym yn cyfeirio at statud, darpariaeth statudol neu is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan statud. Dylid dehongli’r cyfeiriadau hyn fel cyfeiriadau at y statud, y ddarpariaeth neu’r is-ddeddfwriaeth honno fel y’i diwygir neu fel y’i hailddeddfir o bryd i’w gilydd, boed hynny cyn neu ar ôl y dyddiad y diwygiwyd y Telerau ac Amodau Defnydd hyn ddiwethaf. Lle rydym yn cyfeirio at statud, mae’r cyfeiriad hwnnw yn cynnwys unrhyw is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y statud hwnnw boed hynny cyn neu ar ôl y dyddiad y diwygiwyd y Telerau ac Amodau Defnydd hyn ddiwethaf.
    6. Mae cyfeiriad at “ysgrifenedig” yn cynnwys negeseuon ffacs ac e-bost oni nodir fel arall.

 

  1. CYMHWYSEDD, COFRESTRU A’CH CYFRIF
    1. Er mwyn gallu cofrestru’n Aelod o Ewch â Mi Hefyd a defnyddio’r Wefan, mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf. Os ydych o dan 18 oed, bydd unrhyw Aelodaeth honedig yn ddi-rym. Dim ond yng nghwmni Aelod cofrestredig y gall plant deithio ar deithiau a drefnir drwy Ewch â Mi Hefyd!.
    2. Er mwyn dod yn Aelod o Ewch â Mi Hefyd!, mae’n rhaid i chi gwblhau’r broses gofrestru a derbyn y Telerau ac Amodau Defnydd hyn. Er mwyn osgoi amheuaeth, bydd unrhyw ddefnydd pellach o’r Wefan gennych yn dangos eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn. Bydd angen i unrhyw un sydd am weld a/neu ddefnyddio’r Cyfleusterau gofrestru. Mae’n rhaid i’r wybodaeth a ddarperir gennych fod yn gyfredol, yn gyflawn ac yn gywir ym mhob ffordd. Nid yw Ewch â Mi Hefyd! yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am fanylion anghywir Aelodau. Mae gennym yr hawl i wrthod rhoi cyfrif i chi yn ôl ein disgresiwn yn unig.
    3. Yn amodol ar ein hawl i wrthod y cyfeirir ati uchod, ar ôl cydymffurfio â’r amodau a bennir gan y broses gofrestru, gofynnir i chi ddewis manylion adnabod defnyddiwr a chyfrinair. Mae’r wybodaeth hon yn hollol breifat a chyfrinachol a chi sy’n llwyr gyfrifol am sicrhau na chaiff ei chyfleu i unrhyw berson arall na’i rhannu ag unrhyw berson arall. Mae gennym yr hawl (ond nid oes rhwymedigaeth arnom) i derfynu’ch cyfrif ar unrhyw adeg os down yn ymwybodol eich bod wedi datgelu eich manylion adnabod defnyddiwr a/neu’ch cyfrinair i unrhyw berson arall.
    4. Nid oes rhwymedigaeth arnom i gynnal gwiriadau adnabod ar gyfer pob person sy’n cofrestru i ddefnyddio Ewch â Mi Hefyd! ac nid oes modd yn dechnegol i ni wneud hynny ychwaith. Mae’r defnydd o’ch cyfrif wedi’i gyfyngu’n benodol i chi, ac nid oes gennych yr hawl i drosglwyddo na rhannu’ch cyfrif ag unrhyw berson arall (dros dro neu’n barhaol). Nid ydym yn atebol os defnyddir hunaniaeth Aelod gan berson arall. Os bydd gennych reswm dros gredu bod person arall o bosibl yn defnyddio’ch gwybodaeth adnabod neu’ch cyfrif, am unrhyw reswm, mae’n rhaid i chi ein hysbysu ar unwaith drwy gysylltu â ni. Er mwyn diogelu’ch preifatrwydd, byddwn yn atal mynediad dros dro neu’n newid mynediad at eich cyfrif cyn gynted ag y bo modd ar ôl cael ein hysbysu gennych fod eich cyfrinair wedi cael ei golli neu ei ddwyn neu fod diogelwch eich cyfrinair wedi cael ei beryglu fel arall.
    5. Chi fydd yn llwyr gyfrifol am unrhyw ddatganiad a phob datganiad a wneir ac unrhyw weithgarwch a phob gweithgarwch sy’n digwydd drwy’ch cyfrif.
    6. Chi sy’n gyfrifol am yr holl offer (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r holl systemau cyfrifiadurol, meddalwedd, ffôn, y rhyngrwyd a systemau telathrebu eraill) a ddefnyddir i gael gafael ar y Cyfleusterau, ynghyd ag unrhyw daliadau neu gostau yr eir iddynt o ganlyniad i’w defnyddio.
    7. Rydych drwy hyn yn cydnabod bod y Cyfleusterau a’r Wefan yn dibynnu ar gymwysiadau meddalwedd penodol gan ddarparwyr gwasanaethau trydydd parti sydd â’u Telerau ac Amodau eu hunain o bosibl. Rydych drwy hyn yn cytuno i’r telerau trydydd parti canlynol (fel y’u diwedderir o bryd i’w gilydd) a fydd yn gymwys i’r Cyfleusterau a’r Wefan yn ogystal â’r Telerau ac Amodau Defnydd hyn:

Mapiau Google:https://www.google.com/help/terms_maps.html

 

  1. PARU TEITHWYR A CHWMPAS Y WEFAN A’R CYFLEUSTERAU
    1. Mae’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau yn helpu i hwyluso trefniadau ar gyfer rhannu lifftiau rhwng Aelodau. Nid yw’r Wefan na’r Cyfleusterau yn cynnwys trefnu cyfarfodydd all-lein rhwng Aelodau, rhoi mynediad i’r rhyngrwyd, na darparu gwasanaeth cyfathrebu electronig i’r cyhoedd. Fel y cyfryw, nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol arnom i adnabod Aelodau pan fyddant yn cysylltu â’r Wefan na monitro cynnwys a gyhoeddir gan Aelodau. Am na allwn ddarparu’r cyfryw wasanaethau yn dechnegol, nid ydym yn ymrwymo’n gytundebol i adnabod Aelodau na chymedroli’r cynnwys a gyhoeddir gan unrhyw un ohonynt (a erys yn gyfrifoldeb arnynt hwy yn unig).
    2. Ni fyddwn yn atebol am ddatganiadau anwir gan Aelod. Er y byddwn o bosibl yn cynnal rhai gwiriadau ar Aelodau, fe’ch cynghorir na allwn warantu cywirdeb llwyr y wybodaeth a roddir ganddynt i ni wrth gofrestru. Er mwyn osgoi amheuaeth, rydym yn gwneud gwiriadau sylfaenol ar drwyddedau gyrru (y math o drwydded a ddelir ac ardystiadau) a cherbydau (p’un a oes gan y cerbyd dreth gyfredol) Aelodau, ar adeg cofrestru, a dim ond o bryd i’w gilydd wedi hynny, a hynny’n seiliedig ar y wybodaeth a roddir i ni gan yr Aelod dan sylw. Fe’ch cynghorir yn gryf i fod yn ofalus a bodloni’ch hun bod y person neu’r personau y byddwch o bosibl yn teithio gyda hwy yn addas a lle rydych yn bwriadu teithio mewn car sy’n cael ei yrru gan y person (neu ryw berson a awdurdodir ganddo), eich bod yn fodlon ynghylch dilysrwydd â’u trwydded yrru (neu drwydded yrru’r gyrrwr) eu hyswiriant ac unrhyw dystysgrifau MOT sydd eu hangen ar eu cerbyd (fel y bo’n briodol). Felly, mae’n hanfodol eich bod yn cynnal yr holl ymchwiliadau angenrheidiol i’ch cymdeithion wrth drefnu i rannu trefniadau teithio a chludiant. Mae’n rhaid i chi hefyd gymryd pob rhagofal wrth drefnu i gyfarfod ag Aelod arall.
    3. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled na difrod sy’n codi o unrhyw ddamweiniau neu ddigwyddiadau, na goblygiadau eraill sy’n codi o gyfarfodydd rhwng Aelodau, boed hynny ar y Wefan, drwy unrhyw rai o’r Cyfleusterau, neu’n bersonol yn ystod cyfarfodydd rhwng Aelodau a/neu unigolion nad ydynt yn Aelodau o ganlyniad i ddefnyddio’r Wefan a/neu Gyfleusterau eraill. At hynny, argymhellir eich bod yn dweud wrth rywun rydych yn ymddiried ynddo pan fyddwch yn trefnu cyfarfod ag Aelod arall a’ch bod yn trefnu i gyfarfod mewn man cyhoeddus i ddechrau.

 

  1. RHEOLAU YMDDYGIAD
    1. Mae Ewch â Mi Hefyd! wedi’i gynllunio i ddarparu ar gyfer amrywiol fuddiannau a safbwyntiau. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r Aelodau ymddwyn mewn modd priodol. Ni chaiff Ewch â Mi Hefyd! ei ddefnyddio i bostio na throsglwyddo deunydd anghyfreithlon, niweidiol, bygythiol, sarhaus, aflonyddol, difenwol, neu sydd fel arall yn annerbyniol, o unrhyw fath, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i unrhyw ddeunydd sy’n annog ymddygiad a fyddai’n niweidiol i fuddiannau ein helusen, sy’n drosedd, sy’n camfanteisio ar blant a/neu oedolion sy’n agored i niwed, sy’n ymyrryd â hawliau pobl eraill, neu sydd fel arall yn groes i unrhyw gyfraith leol, daleithiol, wladol neu ryngwladol gymwys. Cadwn yr hawl i dynnu aelodaeth oddi ar unrhyw grŵp neu gyfranogwr sydd, yn ein barn ni yn unig, yn torri’r amod hwn a/neu’n torri’r ymgymeriadau a/neu’r rhwymedigaethau a nodir yn amodau 4.3, 4.4 a 4.5 isod. Darllenwch Rheolau’r Ffordd i Aelodau Ewch â Mi Hefyd a gall Aelodau hefyd gyfeirio at ein Cwestiynau Cyffredin i gael canllawiau, awgrymiadau ac atebion syml ynglŷn â sut mae’r cyfan yn gweithio.
    2. Heb leihau effaith amod 12 (Terfynu) isod, mae Aelodau yn addo peidio â defnyddio unrhyw rai o’r Cyfleusterau (gan gynnwys y Wefan):
      1. mewn unrhyw ffordd sy’n torri unrhyw gyfraith neu reoliad lleol, gwladol neu ryngwladol cymwys;
      2. mewn unrhyw ffordd sy’n anghyfreithlon neu’n dwyllodrus, neu at unrhyw ddiben anghyfreithlon neu dwyllodrus neu sy’n cael unrhyw effaith anghyfreithlon neu dwyllodrus;
      3. er mwyn niweidio neu geisio niweidio unrhyw berson (gan gynnwys plant dan oed a/neu oedolion sy’n agored i niwed) mewn unrhyw ffordd;
      4. i anfon unrhyw ddeunydd nad yw’n cydymffurfio ag amod 4.5 isod, ei dderbyn gan wybod hynny, ei lanlwytho, ei lawrlwytho ei ddefnyddio neu ei ailddefnyddio;
      5. i hysbysebu, hyrwyddo neu farchnata cynhyrchion, nwyddau a chyfleusterau neu gymell archebion am gynhyrchion, nwyddau a chyfleusterau neu gynnig prynu, gwerthu, prydlesu neu drwyddedu cynhyrchion, nwyddau a chyfleusterau;
      6. i drosglwyddo neu beri anfon unrhyw ddeunydd hysbysebu neu hyrwyddo na ofynnwyd amdano neu ddeunydd awdurdodedig neu neu unrhyw fath arall o gymell tebyg;
      7. i drosglwyddo unrhyw ddata, anfon neu lanlwytho unrhyw ddeunydd neu wybodaeth sy’n cynnwys feirysau, cneifion mynediad, mwydod, bomiau amser, cofnodwyr trawiadau bysellau. ysbïwedd, hysbyswedd, neu unrhyw raglenni niweidiol eraill neu god cyfrifiadurol tebyg sydd â’r nod o effeithio’n andwyol ar weithrediad unrhyw feddalwedd neu galedwedd gyfrifiadurol gan wybod hynny;
      8. cynaeafu, cydgrynhoi, cloddio, copïo neu fel arall gasglu gwybodaeth am eraill, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i enwau, cyfeiriadau e-bost, cyfrineiriau, rhifau ffôn, gwybodaeth am ddefnydd heb eu caniatâd;
      9. ceisio cael mynediad heb awdurdod i ymyrryd â’r Cyfleusterau (gan gynnwys y Wefan), eu haddasu, neu eu hacio.
    3. Rydych hefyd yn addo:
      1. peidio ag atgynhyrchu, dyblygu, copïo na gwerthu’r Wefan na’r Cyfleusterau cyfan nac unrhyw ran ohoni nac ohonynt;
      2. peidio â chael mynediad heb awdurdod i’r canlynol, ymyrryd â hwy, eu niweidio nac aflonyddu arnynt:
        1. y Wefan a/neu’r Cyfleusterau cyfan neu unrhyw ran ohoni a/neu ohonynt;
        2. yr holl gyfarpar neu’r rhwydwaith lle y caiff y Wefan a/neu’r Cyfleusterau eu storio neu unrhyw ran ohoni/ohonynt;
        3. yr holl feddalwedd neu unrhyw feddalwedd a ddefnyddir wrth ddarparu’r Wefan a/neu unrhyw rai o’r Cyfleusterau; neu
        4. yr holl gyfarpar neu rwydwaith neu feddalwedd neu unrhyw gyfarpar neu rwydwaith neu feddalwedd sy’n eiddo i unrhyw drydydd parti neu a ddefnyddir gan unrhyw drydydd parti;
      3. defnyddio eich manylion adnabod defnyddiwr a/neu’ch cyfrinair dim ond er mwyn cadarnhau mynediad i’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau. Er mwyn osgoi amheuaeth, fe’ch gwaherddir rhag creu Manylion Adnabod/proffil Aelod drwy ddefnyddio hunaniaeth ffug er mwyn camarwain eraill (gan gynnwys ni) ynglŷn â’ch hunaniaeth neu i gambersonadu person arall;
      4. defnyddio’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau yn unol â’r diben a nodir yn y Telerau ac Amodau Defnydd hyn.
    4. Heb leihau effaith amod 12 (Terfynu) isod, rydych yn addo cydymffurfio â’r rhwymedigaethau canlynol mewn perthynas â chynnwys y deunydd y gallwch ei gyfrannu o bryd i’w gilydd a/neu ei lanlwytho i’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau:
      1. sicrhau bod yr holl gynnwys sy’n cael ei bostio, ei gyhoeddi, ei lanlwytho, ei ledaenu a/neu ei ddarlledu ar ba ffurf bynnag y bo yn gywir, wedi’i ddal yn ddilys ac yn cydymffurfio â’r gyfraith gymwys sydd mewn grym o bryd i’w gilydd yng Nghymru a Lloegr a (lle nad yw wedi’i bostio, ei lanlwytho, ei ledaenu a/neu ei ddarlledu yng Nghymru a Lloegr) yn y wlad y caiff ei bostio, ei lanlwytho, ei ledaenu a/neu ei ddarlledu felly;
      2. peidio â phostio, cyhoeddi, lanlwytho, lledaenu na darlledu ar unrhyw ffurf bynnag y bo gynnwys sy’n torri hawliau unrhyw berson arall neu sy’n ddifenwol, yn anllad, yn niweidiol, yn dramgwyddus, yn atgas a/neu’n ymfflamychol, yn dreisgar a/neu’n cymell trais neu derfysgaeth, o natur rywiol; a/neu’n hyrwyddo deunydd o natur rywiol, yn wleidyddol neu’n dwyllodrus, ac, yn gyffredinol, unrhyw gynnwys sy’n mynd yn groes i ddiben Ewch â Mi Hefyd!, cyfreithiau neu reolau mewn grym a/neu arferion a safonau derbyniol presennol;
      3. peidio â phostio, cyhoeddi, lanlwytho, lledaenu na darlledu ar unrhyw ffurf bynnag y bo gynnwys sy’n hyrwyddo gwahaniaethu ar sail hil, rhyw, crefydd, cenedligrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol a/neu oedran;
      4. peidio â phostio, cyhoeddi, lledaenu, lanlwytho, darlledu nac atgynhyrchu unrhyw wybodaeth a ddiogelir drwy hawlfraint, nod masnach a/neu eiddo deallusol arall neu wybodaeth berchenogol a/neu wneud unrhyw beth a all ymyrryd ag unrhyw hawlfraint, hawl cronfa ddata, nod masnach a/neu eiddo deallusol arall unrhyw berson arall, heb gael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw perchennog y cyfryw waith/gwybodaeth berchenogol yn gyntaf. Er mwyn osgoi amheuaeth a heb unrhyw warant y caniateir a/neu yr awdurdodir hyn, dim ond ffeiliau parth cyhoeddus, a ffeiliau lle mae’r awdur wedi rhoi caniatâd penodol i chi eu copïo a’u hailddosbarthu ar-lein neu fel arall, y gellir eu lanlwytho i’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau, gan gynnwys unrhyw ffeiliau neu lyfrgelloedd meddalwedd;
      5. peidio â phostio, cyhoeddi, lledaenu, darlledu na pheri postio, lledaenu a/neu ddarlledu ar unrhyw ffurf bynnag y bo gynnwys neu ddolenni i wefannau trydydd parti sy’n gyfystyr â throsedd neu sy’n hyrwyddo trosedd, sy’n codi atebolrwydd sifil, sy’n hyrwyddo unrhyw weithgarwch anghyfreithlon a/neu sy’n mynd yn groes i unrhyw gyfraith leol, daleithiol, wladol neu ryngwladol, gan wybod hynny;
      6. peidio â phostio, cyhoeddi, lledaenu, lanlwytho a/neu ddarlledu cynnwys, ar unrhyw ffurf bynnag y bo, sy’n debygol o dwyllo, aflonyddu, cynhyrfu, cywilyddio, dychryn neu achosi trallod, anghyfleustra neu bryder diangen i unrhyw berson arall;
      7. peidio â phostio, cyhoeddi, lledaenu, lanlwytho na darlledu cynnwys, ar ba ffurf bynnag y bo, er mwyn cambersonadu unrhyw berson neu gam-gyfleu pwy ydych neu eich cysylltiad ag unrhyw berson;
      8. peidio â phostio, cyhoeddi, lledaenu na darlledu cynnwys, ar unrhyw ffurf bynnag y bo, sy’n argymell, yn hyrwyddo a/neu’n cynorthwyo unrhyw weithred anghyfreithlon megis (enghraifft yn unig) torri hawlfraint a/neu gamddefnyddio cyfrifiadur;
      9. heb ganiatâd yr Aelodau dan sylw, peidio â phostio, cyhoeddi, lledaenu na darlledu cynnwys, ar unrhyw ffurf, a allai ymyrryd â phreifatrwydd, diogelu data, hawliau perchenogol a/neu hawliau eraill unrhyw berson neu endid, gan gynnwys unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir gan Aelod arall (gan gynnwys cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post, rhif ffôn) a fyddai’n galluogi Aelod i gysylltu ag Aelod arall heb ddefnyddio Ewch â Mi Hefyd!;
      10. peidio â phostio, cyhoeddi, lledaenu na darlledu cynnwys ar unrhyw ffurf bynnag y bo sy’n torri unrhyw ddyletswydd gyfreithiol (gan gynnwys dyletswydd gytundebol neu ddyletswydd hyder sy’n ddyledus i unrhyw berson arall);
      11. peidio â mynegi nac awgrymu bod unrhyw ddatganiadau a wneir gennych yn cael eu cymeradwyo gennym ni a/neu’r Wefan neu sy’n deillio oddi wrthym ni a/neu’r Wefan heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol ymlaen llaw.
    5. Bydd methiant ar eich rhan i gydymffurfio â phob un neu unrhyw un o’r rhwymedigaethau a/neu ymgymeriadau a nodir yn amodau 4.3, 4.4 a/neu’r amod 4.5 hwn yn gyfystyr ag achos difrifol gennym o dorri’ch rhwymedigaethau i ni a/neu o dan y Telerau ac Amodau Defnydd hyn. Os ydych yn torri un neu ragor o’r rhwymedigaethau a/neu’r ymgymeriadau hyn, heb leihau effaith amod 12 (Terfynu) isod, bydd hawl gennym i gymryd pob un neu unrhyw un o’r camau canlynol:
      1. tynnu’ch hawl i ddefnyddio Ewch â Mi Hefyd! yn ôl ar unwaith ar sail dros dro neu’n barhaol;
      2. dileu unrhyw ddeunydd a gafodd ei bostio neu ei lanlwytho gennych i’r Wefan ar unwaith ar sail dros dro neu’n barhaol;
      3. rhoi rhybudd i chi;
      4. cychwyn achos cyfreithiol yn eich erbyn gan gynnwys am ad-dalu’r holl gostau ar sail indemniad llawn (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gostau gweinyddu a chyfreithiol rhesymol) sy’n deillio o’ch methiant i gydymffurfio felly;
      5. cymryd camau cyfreithiol pellach yn eich erbyn; a/neu
      6. datgelu’r cyfryw wybodaeth i awdurdodau gorfodi’r gyfraith a/neu awdurdodau cymwys eraill ag y gallwn yn rhesymol deimlo ei bod yn angenrheidiol.
    6. Nid yw’r camau a ddisgrifir yn amod 4.5 uchod yn hollgynhwysfawr, a gallwn gymryd unrhyw gamau eraill y tybiwn eu bod yn briodol, gan weithredu yn ôl ein disgresiwn llwyr.

 

  1. MYNEDIAD AT Y WEFAN A’R CYFLEUSTERAU
    1. Rhoddir mynediad at y Wefan a/neu’r Cyfleusterau ar sail “fel y mae, fel y mae ar gael”. Cadwn yr hawl i gyfyngu ar bob rhan neu unrhyw ran o’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau ar unrhyw adeg ac am unrhyw reswm neu am ddim rheswm, ei gwahardd, ei haddasu neu ei therfynu gyda neu heb rybudd ymlaen llaw i chi. Ni fyddwn yn atebol i chi nac i unrhyw berson arall os nad yw pob rhan nac unrhyw ran o’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau, am unrhyw reswm, ar gael ar unrhyw adeg ac am unrhyw gyfnod (gan gynnwys os byddant yn cael eu terfynu’n gyfan gwbl neu’n rhannol gennym).
    2. Chi sy’n gyfrifol am wneud yr holl drefniadau sy’n angenrheidiol i chi gael mynediad at y Wefan a/neu’r cyfleusterau. Heb leihau effaith amod 2.3, chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr holl bersonau sy’n cael mynediad at y Wefan a/neu’r Cyfleusterau drwy eich cysylltiad â’r rhyngrwyd yn ymwybodol o’r telerau hyn, a’u bod yn cydymffurfio â hwy.
    3. Nid ydym yn gwarantu y bydd y Wefan a/neu’r Cyfleusterau a/neu’r graffeg neu gynnwys arall y gallwch ei lanlwytho o bryd i’w gilydd o’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau yn bodloni’ch gofynion, ac y bydd y Wefan a/neu’r Cyfleusterau yn ddi-dor, yn amserol, yn ddiogel, neu’n rhydd o wallau; ac nid ydym ychwaith yn rhoi unrhyw warantiad ynghylch y canlyniadau a all ddeillio o ddefnyddio’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau a/neu gywirdeb na dibynadwyedd unrhyw wybodaeth a geir drwy’r holl Wefan a/neu’r Cyfleusterau neu unrhyw ran ohonynt nac y bydd diffygion yn yr holl Wefan a/neu’r Cyfleusterau neu unrhyw ran ohonynt yn gywir.
    4. Anelwn at ddiweddaru’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau yn rheolaidd, a gallwn, ar unrhyw adeg, newid y cynnwys a/neu archifo neu ddileu unrhyw rai o’r teithiau ar y Wefan a/neu’r Cyfleusterau sy’n hŷn na 6 mis. Os bydd angen, gallwn atal mynediad at y Wefan a/neu’r Cyfleusterau a/neu ei chau neu eu cau am gyfnod amhenodol. Gall unrhyw ran o’r deunydd ar y Wefan a/neu’r Cyfleusterau fod yn anghyfredol ar unrhyw adeg benodol, ac ni fydd unrhyw rwymedigaeth arnom i ddiweddaru’r cyfryw ddeunydd.
    5. Nid oes unrhyw rwymedigaeth arnom i oruchwylio, monitro, adolygu na chymedroli trafodaethau, sgyrsiau, postiadau, trosglwyddiadau, na grwpiau. Rydym yn benodol yn eithrio ein hatebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod sy’n codi o ddefnyddio’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau gan Aelod yn groes i amodau 4.2, 4.3 a 4.4 o’r Telerau ac Amodau Defnydd hyn.

 

  1. PREIFATRWYDD A CHYFRINACHEDD
    1. Nodir y ffordd rydym yn casglu, yn storio, yn rhannu ac yn defnyddio gwybodaeth a data (gan gynnwys data a ddarperir gennych chi) yn Polisi Preifatrwydd a Chwcis Ewch â Mi Hefyd!.
    2. Darllenwch ein Polisi Preifatrwydd yn ofalus gan ei fod yn gyfrwymol arnoch mewn perthynas â phrosesu’ch Data Personol yn unol â’ch defnydd o’r Wefan a’r Cyfleusterau. Noder ein bod yn anfon gwybodaeth am y gwasanaeth at yr Aelodau drwy e-bost o bryd i’w gilydd.
    3. Byddwn yn cadw’r holl wybodaeth a ddarperir gennych chi i ni sy’n eithaf cyfrinachol sy’n ymwneud â’ch cyfrif yn hollol gyfrinachol, ar yr amod nad yw’n cael ei chyhoeddi na’i defnyddio’n gyhoeddus ar y Wefan neu’r Cyfleusterau gennych chi (“Gwybodaeth Gyfrinachol”).
    4. Dim ond i’r graddau sydd eu hangen er mwyn rhoi ein gwasanaethau i chi a gweithredu’r Wefan neu’r Cyfleusterau y byddwn yn defnyddio eich Gwybodaeth Gyfrinachol.
    5. Gallwn ddarparu Gwybodaeth Gyfrinachol i’n swyddogion, ein cyflogeion, ein hymgynghorwyr, ein hasiantau a’n hisgontractwyr y mae angen iddynt weld y Wybodaeth Gyfrinachol mewn cysylltiad â chyflawni ein rhwymedigaethau o dan y Telerau ac Amodau Defnydd hyn, ar yr amod eu bod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau cymaradwy o ran cyfrinachedd â’r amod hwn.
    6. Ni fydd dim yn y Telerau ac Amodau Defnydd yn ein hatal rhag defnyddio na datgelu unrhyw Wybodaeth Gyfrinachol:
      1. sy’n gyhoeddus neu sy’n dod yn gyhoeddus mewn unrhyw ffordd heb i ni nac unrhyw berson nac endid y caiff ei datgelu iddo dorri’r Telerau ac Amodau Defnydd hyn;
      2. y gallwn ddangos: (i) ei bod yn ein meddiant neu’n hysbys i ni am ei bod yn cael ei defnyddio neu ei chofnodi gennym yn ei ffeiliau cyn i ni ei derbyn gennych chi ac nad oedd wedi’i chael gennym ni o dan unrhyw rwymedigaeth ynghylch cyfrinachedd; neu (ii) ei bod wedi cael ei datblygu’n annibynnol gennym ni heb gyfeirio at y Wybodaeth Gyfrinachol;
      3. rydym yn ei chael neu sydd ar gael o ffynhonnell heblaw amdanoch chi, heb dor rheol gennym ni, na’r cyfryw ffynhonnell o unrhyw rwymedigaeth ynghylch cyfrinachedd neu ddim defnydd;
      4. sy’n cael ei datgelu gennym ni gyda’ch cymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw; neu
      5. y mae’n ofynnol ei rhyddhau yn ôl y gyfraith (e.e. drwy orchymyn llys), cyhyd ag y byddwch yn cael cymaint o rybudd ysgrifenedig ymlaen llaw o’r cyfryw gais ag y bo modd, pan ganiateir hyn o dan y gyfraith gymwys.

 

  1. EIDDO DEALLUSOL

    1. Ac eithrio unrhyw Hawliau Eiddo Deallusol sy’n bodoli eisoes mewn unrhyw nodau masnach, logos, graffeg a thestun neu hawliau eiddo deallus eraill sy’n eiddo i Sefydliad Partner neu Gleient, a erys yn eiddo i’r Sefydliad Partner neu’r Cleient hwnnw yn unig, mae’r Hawliau Eiddo Deallusol yn y nodau masnach, y logos, y graffeg, yr animeiddiadau, y delweddau, y feddalwedd, y codio, yr algorithmau a’r testun a ddefnyddir yn y Cyfleusterau a’r rhai a gynhwysir ar y Wefan yn eiddo deallus i ni (Hawliau Eiddo Deallusol “Ewch â Mi Hefyd!) ac, fel y cyfryw, ni ellir copïo tudalennau’r Wefan (nac unrhyw ran ohonynt), y Cyfleusterau a/neu elfennau o’r Cyfleusterau, eu hatgynhyrchu, eu haddasu, eu cyhoeddi, eu lledaenu, ymwela arnynt er budd masnachol a/neu eu dosbarthu ar unrhyw ffurf bynnag y bo, heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol.
    2. Bydd unrhyw hawliau i ddefnyddio Hawliau Eiddo Deallusol Ewch â Mi Hefyd! y gallwch chi eu rhoi i ni wedi’u cyfyngu’n llwyr i gyrchu, lawrlwytho, argraffu ac atgynhyrchu ar yr holl gyfryngau (gan gynnwys disgiau caled a chyfryngau storio y gellir eu tynnu megis cofau bach USB, cardiau cof, CD / DVD ac ati) ac i ddefnyddio’r dogfennau hyn at ddibenion preifat a phersonol yn unig yng nghwmpas aelodaeth yr Aelod o’r Wefan a thra pery’r aelodaeth honno. Gwaherddir unrhyw ddefnydd arall gan yr Aelod yn llwyr heb ein hawdurdodiad ysgrifenedig penodol.
    3. Rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol:
      1. oni chaniateir o dan unrhyw gyfraith gymwys na ellir ei eithrio drwy gytundeb rhwng y partïon: (i) ceisio copïo’r holl Gyfleusterau neu unrhyw gyfran ohonynt (fel y bo’n gymwys), eu haddasu, eu dyblygu, creu gwaith sy’n deillio ohonynt, eu fframio, eu hefelychu, eu hailgyhoeddi, eu lawrlwytho, eu harddangos, eu trosglwyddo na’u dosbarthu ar unrhyw ffurf neu drwy unrhyw gyfrwng neu drwy unrhyw fodd; neu (ii) ceisio casglu o chwith yr holl Gyfleusterau neu unrhyw ran ohonynt, eu dadelfennu, eu peiriannu o chwith neu fel arall eu troi’n ffurf ganfyddadwy i fodau dynol;
      2. cael mynediad at yr holl Gyfleusterau neu unrhyw ran ohonynt er mwyn creu cynnyrch neu wasanaeth sy’n cystadlu â hwy;
      3. defnyddio’r Cyfleusterau i ddarparu gwasanaethau i drydydd partïon;
      4. trwyddedu’r Cyfleusterau, eu gwerthu, eu rhentu, eu prydlesu, eu trosglwyddo, eu haseinio, eu dosbarthu, eu harddangos, eu datgelu, neu fel arall ymwela’n fasnachol arnynt, neu fel arall sicrhau eu bod ar gael i unrhyw drydydd parti; neu
      5. geisio cael mynediad at y Cyfleusterau, neu gynorthwyo trydydd partïon i gael mynediad atynt, ac eithrio fel y caniateir gan y Telerau ac Amodau Defnydd hyn.
    4. Cynnwys a Data Aelodau
      Pan fyddwch yn lanlwytho cynnwys a data, rydych drwy hyn yn rhoi trwydded (ac yn ymhonni ac yn gwarantu bod gennych yr hawl i’w rhoi) ddifreindal, anghyfyngol, drosglwyddadwy, ddiwrthdro, fyd-eang i Ewch â Mi Hefyd! (ynghyd â’r hawl i roi is-drwyddedau) i ddefnyddio, copïo, atgynhyrchu, portreadu, addasu, newid, trosi, sganio, is-drwyddedu, aseinio, trosglwyddo unrhyw gynnwys, gwybodaeth, data, delweddau a/neu ddeunyddiau neu’r holl gynnwys, gwybodaeth, data, delweddau a/neu ddeunyddiau rydych yn eu cyhoeddi, eu lanlwytho, postio yn eu cylch, eu lledaenu, eu darlledu a/neu eu dosbarthu ar a/neu drwy’r Wefan a’r Cyfleusterau, dim ond i’r graddau y mae’n angenrheidiol i gyflwyno gwasanaethau’r Wefan (“Cynnwys Aelod”) a/neu greu gwaith sy’n deillio o’r cyfryw wybodaeth, data, delweddau a/neu ddeunyddiau. Bydd y drwydded hon yn parhau tra pery eich aelodaeth o’r Wefan ac am gyfnod o 24 mis ar ôl hynny yn unol â’r cyfnod cadw yn ein Polisi Preifatrwydd, pan fydd yn terfynu’n awtomatig a chaiff Cynnwys Aelod ei ddileu. Bydd unrhyw Ddata nad yw’n Bersonol a gesglir drwy unrhyw broses o gofrestru aelodau neu fel arall yn eiddo i Ewch â Mi Hefyd!
    5. Rydych drwy hyn yn ein hawdurdodi’n benodol i addasu Cynnwys Aelod er mwyn bod yn unol â diwyg y Wefan a/neu’r Cyfleusterau a/neu’r cyfryngau cyfathrebu a ddefnyddir gennym ni a/neu wneud Cynnwys Aelod yn gydwedd ag unrhyw brosesau technegol neu fformatau cyfryngau priodol.
    6. Mae’r hawliau y cyfeirir atynt yn amod 7.4 ac amod 7.5 yn fyd-eang ac yn bodoli am y cytundeb cyfan rhyngom ni fel y’i disgrifir yn y Telerau ac Amodau Defnydd hyn.
    7. Mae’n rhaid i chi beidio â chopïo unrhyw gynnwys sy’n ymwneud ag Aelodau eraill, ei atgynhyrchu na’i ddefnyddio fel arall at unrhyw ddiben y bo ac eithrio i’r graddau sy’n ofynnol at y diben y caniateir Aelodaeth o’r Wefan yn benodol fel y’i disgrifir yn y Telerau ac Amodau Defnydd hyn.

 

  1. LANLWYTHO CYNNWYS I’R WEFAN
    1. Pryd bynnag y byddwch yn defnyddio nodwedd sy’n caniatáu i chi lanlwytho unrhyw gynnwys, gwybodaeth, data, delweddau a/neu ddeunyddiau i’r Wefan neu gysylltu ag Aelodau eraill, mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’r Rheolau Ymddygiad a nodir yn y Telerau ac Amodau Defnydd hyn. Wrth lanlwytho unrhyw gynnwys, gwybodaeth, data, delweddau a/neu ddeunyddiau i’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau rydych yn gwarantu eich bod wedi cydymffurfio â’r Rheolau Ymddygiad.
    2. Nid ystyrir bod unrhyw gynnwys, gwybodaeth, data, delweddau na deunyddiau a lanlwythwch i’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau yn gyfrinachol ac yn berchenogol a, heb leihau effaith amod 4, mae gennym yr hawl i ddefnyddio, copïo, dosbarthu a datgelu unrhyw gyfryw gynnwys, gwybodaeth, data, delweddau a/neu ddeunyddiau i unrhyw berson arall at unrhyw ddiben. Mae gennym yr hawl hefyd i ddatgelu pwy ydych i unrhyw berson sy’n honni bod unrhyw gynnwys, gwybodaeth, data, delweddau a/neu ddeunyddiau sy’n cael eu cyhoeddi, eu lanlwytho, eu postio, eu lledaenu, eu darlledu a/neu eu dosbarthu ar a/neu drwy’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau yn gyfystyr ag ymyrryd â’i hawliau eiddo deallusol, ei hawl i breifatrwydd neu unrhyw gyfreithiau cymwys eraill.
    3. Bydd gennym yr hawl i dynnu unrhyw gynnwys, gwybodaeth, data, delweddau a/neu ddeunyddiau rydych yn eu lanlwytho i’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau a/neu eu postio ar y Wefan a/neu’r Cyfleusterau, os nad yw’r cyfryw ddeunydd, yn ein barn ni, yn cydymffurfio â’r Rheolau Ymddygiad a nodir yn y Telerau ac Amodau Defnydd hyn. Ni fyddwn yn gyfrifol, nac yn atebol i unrhyw drydydd parti, am y cynnwys na chywirdeb unrhyw gynnwys sy’n cael ei bostio gennych chi neu gan unrhyw Aelod arall o’n Gwefan.

 

  1. CYFYNGU AR EIN HATEBOLRWYDD I CHI
    1. Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw oblygiadau personol nac ariannol, o ganlyniad i ddefnyddio’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau. Ni fydd Ewch â Mi Hefyd! yn gyfrifol mewn unrhyw ffordd am y gwasanaethau a’u haddasrwydd at y diben fel y’u darperir gan Aelodau eraill o’r Wefan gan gynnwys unrhyw gyfrifoldeb am ganslo cytundebau rhwng Aelodau.
    2. Darperir y deunydd a arddangosir ar y Wefan a/neu’r Cyfleusterau heb unrhyw warantau, amodau na gwarantiadau ynghylch ei gywirdeb neu ei gyflawnder. Yn ddarostyngedig i amod 9.9 rydym ni ac unrhyw drydydd parti a phob trydydd parti sy’n gysylltiedig â ni (gan gynnwys ein cyflogeion, ein swyddogion, ein hasiantau, ein cynrychiolwyr a’n his-gontractwyr) drwy hyn yn eithrio’n benodol:
      1. unrhyw a phob amod, gwarantiad a theler arall (gan gynnwys unrhyw a phob gwarantiad penodol neu ymhlyg) a allai fel arall fod yn ymhlyg drwy statud, cyfraith gyffredin neu gyfraith ecwiti;
      2. pob rhwymedigaeth ynghylch: colli unrhyw incwm neu refeniw; colli busnes; colli elw neu gontractau; colli arbedion a ragwelwyd; colli neu lygru data (heb gynnwys Data Personol); colli ewyllys da; amser a wastraffwyd, p’un a achoswyd hynny gan gamwedd (gan gynnwys ein hesgeuluster), tor contract, tor dyletswydd statudol neu fel arall;
      3. colled neu ddifrod anuniongyrchol a/neu ganlyniadol (h.y. lle mae’n anrhagweladwy) i chi mewn cysylltiad â defnyddio, yr anallu i ddefnyddio neu sy’n deillio (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) o ddefnyddio’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau, unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig â’r naill neu’r llall a/neu unrhyw gynnwys, gwybodaeth, data, delweddau a/neu ddeunyddiau sy’n cael eu cyhoeddi ar y Wefan a/neu’r Cyfleusterau, eu lanlwytho iddynt, eu postio arnynt a’u lledaenu, eu darlledu a/neu eu dosbarthu arnynt a/neu drwyddynt. Er mwyn osgoi amheuaeth, bydd colled neu niwed yn rhagweladwy naill ai os yw’n amlwg y bydd yn digwydd neu os oeddem ninnau a chithau yn gwybod y gallai ddigwydd ar yr adeg yr ymrwymwyd i’r contract.
    3. Rydych yn cydnabod ac yn cytuno nad ydym ninnau nac unrhyw un o’n cyflogeion, ein swyddogion, ein hasiantau, ein cynrychiolwyr na’u his-gontractwyr yn cymeradwyo cywirdeb neu ddibynadwyedd unrhyw gyngor, barn, datganiad neu wybodaeth arall a arddangosir, a lanlwythir neu a ddosberthir drwy’r Wefan a/neu unrhyw rai o’r Cyfleusterau gennym ni, gan unrhyw un o’n sefydliadau partner, gan unrhyw Aelod a/neu gan unrhyw berson neu endid arall. Ni fyddwn yn gyfrifol nac yn atebol am gynnwys y cyfryw ddeunyddiau a/neu ymddygiad gan Aelodau (boed hynny all-lein neu ar-lein). Fe’ch cynghorir yn gryf i fod yn ofalus ac arfer synnwyr cyffredin wrth ddefnyddio’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau ac wrth gyfarfod â phobl ar ôl cysylltu â hwy drwy’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau.
    4. Rydych yn cydnabod nad yw Ewch â Mi Hefyd! na’i gyflogeion, ei swyddogion, ei asiantau, ei gynrychiolwyr na’i is-gontractwyr yn sgrinio cynnwys ymlaen llaw, ond mae gennym ni (a’r rhai a awdurdodir gennym) yr hawl (ond nid y rhwymedigaeth) yn ôl ein disgresiwn yn unig i wrthod, golygu, symud a/neu dynnu unrhyw gynnwys sy’n cael ei roi ar neu drwy’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau.
    5. Nid ydym yn rhoi cynnwys sy’n cael ei bostio ar y Wefan a/neu’r Cyfleusterau na’i ledaenu drwy’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau ac, fel y cyfryw, nid ydym yn gwarantu cywirdeb, uniondeb nac ansawdd unrhyw gyfryw gynnwys. Rydych yn deall, drwy ddefnyddio’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau, y gallwch gael eich amlygu i gynnwys sy’n dramgwyddus, yn anweddus neu’n annerbyniol. Ni fyddwn yn atebol mewn unrhyw ffordd o dan unrhyw amgylchiadau am unrhyw gynnwys, gan gynnwys unrhyw wallau neu hepgoriadau mewn unrhyw gynnwys a/neu am unrhyw golled a/neu ddifrod o unrhyw fath o ganlyniad i ddefnyddio unrhyw gynnwys sy’n cael ei bostio, ei e-bostio neu fel arall ei ledaenu a/neu ei drosglwyddo drwy’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau.
    6. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw oedi na methiant i gyflawni sy’n deillio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o unrhyw achosion sydd y tu hwnt i’n rheolaeth resymol.
    7. Yn ddarostyngedig i amod 9.8, bydd ein holl atebolrwydd i chi o dan gyfraith contractau, camweddau (gan gynnwys esgeuluster neu dorri dyletswydd statudol), camliwio, iawndal neu sydd fel arall yn codi o dan y Telerau ac Amodau Defnydd hyn neu mewn cysylltiad â hwy wedi’i gyfyngu i swm sy’n hafal i £1,000 o gydgrynhoi pob hawliad.
    8. Ni fydd dim yn y Telerau ac Amodau Defnydd hyn yn eithrio nac yn cyfyngu ar ein hatebolrwydd am (a) marwolaeth neu anaf personol a achosir gan esgeuluster; (b) camliwio twyllodrus neu gamliwio ynghylch mater sylfaenol; neu (c) unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio na’i gyfyngu o dan y gyfraith gymwys.

 

  1. EICH INDEMNIAD I NI
    1. Rydych yn cytuno i’n hindemnio, ein cwmnïau daliannol, ein his-gwmnïau, ein swyddogion, ein cyflogeion, ein hasiantau, ein cynrychiolwyr a’n his-gontractwyr rhag unrhyw a phob hawliad, archeb am dâl, cost, colled (heb gynnwys colledion anuniongyrchol a chanlyniadol), rhwymedigaethau a threuliau gan gynnwys treuliau cyfreithiol (ar sail indemnio) sy’n deillio o’r canlynol neu sy’n gysylltiedig â’r canlynol:
      1. unrhyw achos o dorri’r Rheolau Ymddygiad gennych chi, gan gynnwys unrhyw ymddygiad tramgwyddus neu anghyfreithlon ar eich rhan neu gan unrhyw berson rydych yn gyfrifol amdano;
      2. Cynnwys Aelod yn ymyrryd â Hawliau Eiddo Deallusol trydydd parti;
      3. cynnwys, cywirdeb neu gyflawnder Cynnwys Aelod; a/neu
      4. unrhyw gynnwys, gwybodaeth neu ddeunyddiau difenwol, tramgwyddus neu anghyfreithlon a ddarperir gennych chi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol i ni.

 

  1. DOLENNI I WEFANNAU ERAILL
    1. Noder bod dolenni i wefannau sy’n cael eu creu a/neu eu cynnal gan sefydliadau heblaw amdanom ni’n hunain ar gael ar neu drwy’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau. Fodd bynnag, ni allwn dderbyn unrhyw atebolrwydd am gywirdeb na chynnwys y cyfryw wefannau eraill ac nid ydym o reidrwydd yn cymeradwyo’r safbwyntiau a fynegir mewn unrhyw un ohonynt. Ni fyddwn yn gyfrifol nac yn atebol, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, am unrhyw ddifrod na cholled a achosir neu yr honnir iddo gael ei achosi drwy ddefnyddio unrhyw gynnwys, nwyddau neu wasanaethau ar neu drwy unrhyw gyfryw wefan neu wasanaeth neu drwy ddibynnu ar y cyfryw gynnwys, nwyddau neu wasanaethau neu mewn cysylltiad â hwy. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithredu drwy’r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd unrhyw dudalennau y mae dolen iddynt.

 

  1. TERFYNU
    1. Gallwn gau’ch cyfrif ar y Wefan a/neu’r Cyfleusterau ar unrhyw adeg heb achos, neu os credwn, yn ôl ein disgresiwn yn unig, eich bod wedi mynd yn groes i unrhyw un o’r Rheolau Ymddygiad a nodir yn y Telerau ac Amodau Defnydd hyn. Gallwn hefyd derfynu’ch Aelodaeth a’ch hawl i gael mynediad at y Wefan a/neu’r Cyfleusterau a/neu eu defnyddio:
      1. os ydych yn torri’r cytundeb rhyngom ni fel y’i nodir yn y Telerau ac Amodau Defnydd hyn;
      2. os na allwn gadarnhau na dilysu (pe baem yn dewis gwneud hynny heb fod rhwymedigaeth arnom i wneud hynny) unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych i ni neu os ydych yn methu â rhoi prawf adnabod digonol pan ofynnir i chi, yn ôl ein disgresiwn yn unig, drwy ddogfennau cyfreithiol megis trwydded yrru neu basport dilys;
      3. os oes unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych chi i ni yn anghywir;
      4. os penderfynwn, yn ôl ein disgresiwn yn unig, eich bod wedi rhoi’r gorau i’ch cyfrif;
      5. os penderfynwn, yn ôl ein disgresiwn yn unig, beidio â gweithredu, cynnal a/neu gynnig yr holl Wefan a/neu’r Cyfleusterau neu unrhyw ran ohonynt; a/neu
      6. os ydych yn gweithredu mewn modd y penderfynwn, yn ôl ein disgresiwn yn unig, ei fod yn dwyllodrus a/neu’n groes i unrhyw ddeddfwriaeth gymwys sy’n atal gwyngalchu arian.
    2. Ni fyddwn yn atebol i chi nac i unrhyw drydydd parti am derfynu’ch cyfrif ar y Wefan a/neu bob un neu unrhyw un o’r Cyfleusterau.
    3. Os byddwn yn terfynu’ch Aelodaeth a/neu’n cau eich cyfrif gwnawn hynny heb effeithio ar unrhyw hawliau a/neu rwymedïau eraill a all fod gennym gan gynnwys unrhyw hawliad a phob hawliad o dan unrhyw indemniad a nodir yn y Telerau ac Amodau Defnydd hyn a/neu unrhyw hawliad a phob hawliad am iawndal mewn perthynas ag unrhyw golled o ganlyniad i dorri unrhyw un o’r Telerau ac Amodau Defnydd hyn gennych.
    4. Gallwch ar unrhyw adeg, a chydag achos neu heb achos, derfynu’ch cofrestriad â’r Wefan a’r Cyfleusterau a’ch Aelodaeth drwy ganslo’ch cyfrif drwy eich tudalen ‘Cyfrif’ a’n hysbysu eich bod wedi’i ganslo. Drwy ganslo’ch cyfrif, rydych yn cytuno i gydymffurfio â’n hamodau terfynu a all gynnwys ond nadd ydynt yn gyfyngedig i ddileu unrhyw drefniadau sy’n weddill.
    5. Os caiff eich Aelodaeth ei therfynu, bydd rhwymedigaeth arnoch o hyd i beidio ag ymyrryd â hawliau na phreifatrwydd unrhyw berson neu endid mewn perthynas ag unrhyw ddeunyddiau rydych wedi’u derbyn neu wedi’u lawrlwytho o bosibl drwy a/neu oddi ar y Wefan a/neu’r Cyfleusterau.

 

  1. MATERION Y TU HWNT I’N RHEOLAETH (FORCE MAJEURE)
    1. Ni fydd y naill barti na’r llall yn atebol am unrhyw fethiant i gyflawni ei rwymedigaethau o dan y Telerau ac Amodau Defnydd hyn os bydd y cyfryw fethiant yn deillio o amgylchiadau na ellid yn rhesymol eu dychmygu ar adeg ymrwymo i’r Telerau ac Amodau Defnydd hyn ac sydd y tu hwnt i reolaeth resymol y partïon (gan gynnwys, heb gyfyngiad, streiciau, cau allan neu anghydfodau diwydiannol eraill (sy’n cynnwys gweithlu Ewch â Mi Hefyd!), methiant gwasanaeth cyfleustod neu rwydwaith trafnidiaeth, rhyfel, terfysg, cynnwrf sifil, terfysgaeth, difrod maleisus, cydymffurfiaeth ag unrhyw gyfraith neu orchymyn, rheol, rheoliad neu gyfarwyddyd gan y llywodraeth, damwain, tân, llifogydd, storm neu ddiffyg cyflenwyr neu is-gontractwyr). Os bydd digwyddiad force majeure yn parhau am gyfnod o 30 diwrnod neu fwy, gall y naill barti neu’r llall derfynu’r Telerau ac Amodau Defnydd hyn ar unwaith drwy roi rhybudd ysgrifenedig i’r parti arall.

 

  1. AMRYWIO’R TELERAU AC AMODAU DEFNYDD
    1. Gellir newid y wybodaeth, y deunydd a/neu’r cynnwys a ddarperir ar dudalennau’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau ar unrhyw adeg ac o bryd i’w gilydd heb rybudd. Gallwn ddiwygio’r Telerau ac Amodau Defnydd hyn ar unrhyw adeg heb rybudd ymlaen llaw drwy ddiwygio’r dudalen hon. Rydych yn cytuno y byddwch yn bwrw golwg dros y dudalen hon ar y Wefan yn rheolaidd er mwyn sylwi ar unrhyw newidiadau a wneir, gan eu bod yn gyfrwymol arnoch. Gall rhai o’r darpariaethau a geir yn y Telerau ac Amodau Defnydd hyn hefyd gael eu disodli gan ddarpariaethau neu hysbysiadau a gyhoeddir mewn rhannau eraill o’n Gwefan.

 

  1. CYTUNDEB CYFAN A DARPARIAETHAU AMRYWIOL
    1. Mae’r Telerau ac Amodau Defnydd hyn, a’r tudalennau ar y Wefan a/neu’r Cyfleusterau y mae’r Telerau ac Amodau Defnydd hyn yn cyfeirio atynt, yn gyfystyr â’r cytundeb cyfan rhyngom. Maent yn canslo ac yn disodli pob dealltwriaeth, cynnig, cytundeb, cyd-drafodaeth, a thrafodaeth flaenorol rhyngom, boed hynny’n ysgrifenedig neu ar lafar.
    2. Mae pob parti yn cytuno na fydd ganddo unrhyw rwymediau mewn perthynas ag unrhyw ddatganiad, sylw, sicrwydd neu warantiad (p’un a yw’n cael ei wneud yn ddiniwed neu’n esgeulus) nad ydynt wedi’u nodi yn y Telerau ac Amodau Defnydd hyn. Mae pob parti yn cytuno na fydd ganddo unrhyw hawliad am gamliwio diniwed neu esgeulus na cham-ddatgan esgeulus yn seiliedig ar unrhyw ddatganiad yn y Telerau ac Amodau Defnydd hyn.
    3. Os ystyrir bod unrhyw un o ddarpariaethau (neu ran o unrhyw ddarpariaeth) y Telerau ac Amodau Defnydd hyn yn annilys neu’n anorfodadwy, bydd y cyfryw ddarpariaeth yn cael ei dileu a bydd y darpariaethau sy’n weddill yn parhau mewn grym heb unrhyw amharu arnynt na’u hannilysu o gwbl.
    4. Ni fydd unrhyw ymatal, oedi na goddefgarwch ar ran y naill ohonom na’r llall o ran gorfodi ein priod hawliau yn effeithio nac yn cyfyngu ar yr hawliau hynny. Ni thybir bod y naill neu’r llall ohonom wedi ildio unrhyw un o’n priod hawliau o dan y Telerau ac Amodau Defnydd hyn oherwydd ein priod fethiant neu oedi wrth arfer yr hawl honno.
    5. Ni chewch aseinio, trosglwyddo nac is-gontractio pob un nac unrhyw un o’ch hawliau na’ch rhwymedigaethau o dan y cytundeb rhyngom a nodir yn y Telerau ac Amodau Defnydd hyn sy’n bersonol i chi a bydd unrhyw ymgais ar eich rhan i’r gwrthwyneb yn ddi-rym. Caiff Ewch â Mi Hefyd! ar unrhyw adeg aseinio, trosglwyddo, codi tâl, is-gontractio neu ymdrin mewn unrhyw fodd arall â phob un neu unrhyw un o’i hawliau neu ei rwymedigaethau o dan y Telerau ac Amodau Defnydd hyn. Bydd y cytundeb rhyngom fel y’i dangosir yn y Telerau ac Amodau Defnydd hyn yn dod i rym er budd pob un o’n holynwyr a’n haseiniaid ac yn gyfrwymol arnynt.
    6. Ni fwriedir i ddim yn y Telerau ac Amodau Defnydd hyn weithredu ac ni fydd yn gweithredu i greu partneriaeth rhwng y partïon, nac awdurdodi’r naill barti neu’r llall i weithredu fel asiant y llall, ac ni fydd gan y naill barti na’r llall yr awdurdod i weithredu yn enw neu ar ran y llall neu fel arall ei rwymo mewn unrhyw ffordd (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i wneud unrhyw sylw neu warantiad, derbyn unrhyw rwymedigaeth neu atebolrwydd ac arfer unrhyw hawl neu bŵer).
    7. Mae’n rhaid i unrhyw hysbysiad cyfreithiol a roddir o dan y Telerau ac Amodau Defnydd hyn gan y naill barti i’r llall fod yn ysgrifenedig a gellir ei ddosbarthu’n bersonol neu drwy’r post dosbarth cyntaf ac yn achos postio tybir y bydd wedi’i roi dau ddiwrnod gwaith ar ôl iddo gael ei bostio. Mae’n rhaid i hysbysiadau gael eu dosbarthu neu eu hanfon i gyfeiriad busnes cofrestredig y parti arall neu i unrhyw gyfeiriad y mae’r naill barti wedi hysbysu’r parti arall yn ysgrifenedig yn ei gylch at ddibenion cael hysbysiadau. Ni fydd cyflwyno hysbysiad drwy e-bost na ffacs yn cael ei dderbyn fel dull effeithiol o roi hysbysiad ynghylch hawliad o dan y Telerau ac Amodau Defnydd.

 

  1. HAWLIAU TRYDYDD PARTÏON
    1. Nid oes gan berson nad yw’n barti yn y cytundeb rhyngom unrhyw hawl o dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999 i ddibynnu ar unrhyw un o ddarpariaethau’r Telerau ac Amodau Defnydd hyn na’u gorfodi.

 

  1. AWDURDODAETH A’R GYFRAITH SY’N LLYWODRAETHU
    1. Mae’r Telerau ac Amodau Defnydd hyn a’r cytundeb rhyngom ni ac unrhyw anghydfodau neu hawliadau sy’n deillio ohono neu mewn cysylltiad ag ef neu ei bwnc testun neu ei lunio (gan gynnwys  anghydfodau neu honiadau anghytundebol) yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr a byddant yn cael eu dehongli’n unol â hwy. Bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth gyfyngol mewn perthynas ag unrhyw hawliad neu anghydfod a all godi mewn cysylltiad â’r Telerau ac Amodau Defnydd hyn neu mewn cysylltiad â defnyddio’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau a/neu sy’n deillio o ddefnyddio’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau.

 

  1. PRYDERON
    1. Os bydd gennych unrhyw bryderon ynglŷn ag unrhyw ddeunydd bynnag y bo sy’n ymddangos ar y Wefan a/neu’r Cyfleusterau, cysylltwch â hello@takemetoo.org.uk.
    2. Os credwch fod unrhyw gyfathrebiad drwy neu ar y Wefan a/neu unrhyw rai o’r Cyfleusterau yn ymyrryd ag unrhyw hawliau cyfreithiol sydd gennych chi neu ei fod yn torri unrhyw un o’r Telerau ac Amodau Defnydd hyn (gan gynnwys y Rheolau Ymddygiad) neu os ydych yn gwybod am unrhyw achos o bostio unrhyw gyfathrebiad heb awdurdod neu ymgais i wneud hynny neu’n amau hynny, dylech ein hysbysu ar unwaith gyda’r manylion penodol drwy e-bost yn y cyfeiriad canlynol: hello@takemetoo.org.uk.
    3. Rydych yn cytuno i gydymffurfio â phob cais rhesymol gennym ni, yr heddlu, neu unrhyw awdurdodau statudol neu reoleiddiol o ran nodi unrhyw rai sy’n defnyddio’r Wefan a/neu’r Cyfleusterau heb awdurdod.

 

Diweddarwyd Telerau ac Amodau Ewch â Mi Hefyd! ddiwethaf ar 31 Mawrth 2019.