Allwch chi “Take Me Too!”? Angen gyrwyr ar gyfer prosiect rhannu lifft cyffrous.

Allwch chi “Take Me Too!”? Angen gyrwyr ar gyfer prosiect rhannu lifft.

Ydych chi byth yn gwneud taith gyda seddi gwag yn eich cerbyd? Ydych chi'n poeni am wneud Sir Benfro yn lle mwy cyfeillgar, sydd wedi'i gysylltu'n well i fyw?

Mae elusen trafnidiaeth gymunedol leol yn chwilio am 500 o yrwyr i ymuno â’i rhwydwaith rhannu lifftiau cymunedol, Take Me Too!, yn Sir Benfro yr haf hwn.

Bydd y prosiect cyffrous hwn yn caniatáu i yrwyr gynnig seddi gwag yn eu cerbyd yn gyfnewid am gyfraniad tuag at gostau a’r “ffactor teimlo’n dda” o helpu pobl yn eu cymuned a fyddai fel arall yn cael trafferth i wneud eu taith. Mae rhannu teithiau hefyd yn ffordd wyrddach o deithio, felly byddwch chi'n gwneud cymwynas â'r blaned hefyd!

Mae Take ME Too! yn cael ei redeg gan yr elusen trafnidiaeth gymunedol leol PACTO (Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro) gyda chyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae PACTO wedi bod yn gweithio gyda chwmni technoleg lleol Writemedia i ddatblygu meddalwedd Gwefan ac Ap ar gyfer y gwasanaeth newydd hwn.

Dywedodd Debbie Johnson o PACTO “Mae’n syml ac am ddim i gofrestru – ewch i www.takemetoo.org.uk Mae croeso i unrhyw un 18 oed neu hŷn sy’n byw yn Sir Benfro neu’n teithio’n rheolaidd yn y sir neu o gwmpas y sir. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwn yn cysylltu â chi os byddwn yn derbyn cais am daith y credwn y gallech helpu ag ef. Ni fyddwn yn disgwyl ichi wneud taith arbennig, ond os ydych yn mynd y ffordd honno beth bynnag efallai yr hoffech gynnig lifft.”

Dywedodd Ady Poole, Cydlynydd y Prosiect Take Me Too! “Mae pobl yn poeni am gostau byw yn codi a’r gostyngiad yn eu hincwm gwario felly efallai fod hyn yn ffordd o rannu’r gost a rhannu’r daith. Gobeithio y gallwn helpu pobl Sir Benfro yn y cyfnod anodd hwn”.

Mae Take Me Too! bellach ar agor i yrwyr gofrestru. Bydd y gwasanaeth paru lifftiau llawn yn cael ei lansio yn ddiweddarach yr haf hwn.

Dywedodd Caroline Wilson, Cadeirydd ymddiriedolwyr PACTO, "Mae TakeMeToo yn brosiect mor anhygoel sydd â photensial enfawr i bawb yn Sir Benfro. Nid yn unig i dorri'r gost o deithio o gwmpas, ond y cyfle i wneud ffrindiau newydd, teithio i leoedd newydd, teithio yn effeithlon boed hynny i weithio neu am resymau cymdeithasol. Rwy’n gobeithio y bydd cyflogwyr, yn Sir Benfro, yn ymgysylltu â TMT i annog eu gweithwyr i gofrestru i fod yn yrrwr a/neu’n deithiwr. Bydd Sefydliadau cymunedol, megis Sefydliad y Merched, Merched Y Wawr, Girl guiding, Sgowtio, yr Urdd, i gyd elwa o'r cynllun hwn yn helpu aelodau i aros ac i annog mwy i fynychu sydd efallai wedi rhoi'r gorau i yrru neu heb fynediad i gludiant.

Siawns mai dyna’r ffordd ymlaen – beth ydych chi’n aros am - gofrestru heddiw. Does gennych chi ddim byd i'w golli".

I gael rhagor o wybodaeth am Take Me Too! ymwelwch ag www.takemetoo.org.uk neu ffoniwch 01437 775033.

Sefydlwyd PACTO (Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro) yn 2004, i dynnu ynghyd, atgyfnerthu a chynrychioli’r sector cludiant cymunedol yn Sir Benfro. Rydym yn elusen gofrestredig a chwmni cyfyngedig trwy warant.

Mae gwasanaethau cludiant cymunedol yn cynorthwyo pobl a grwpiau nad oes ganddynt eu cludiant eu hunain ac sydd heb neu sy’n methu defnyddio gwasanaethau cludiant cyhoeddus confensiynol.

I gael rhagor o wybodaeth am PACTO, ymwelwch ag www.pacto.org.uk

 Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw’r cyllidwr cymunedol mwyaf yn y DU – rydym yn falch o ddyfarnu arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i gymunedau ar draws Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Ers mis Mehefin 2004, rydym wedi gwneud dros 200,000 o grantiau a dyfarnu dros £9 biliwn i brosiectau sydd wedi elwa miliynau o bobl.

Rydym yn frwd dros gyllido syniadau gwych sydd o bwys i gymunedau ac sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Y gred wrth galon popeth a wnawn yw bod cymunedau’n ffynnu pan fydd pobl yn arwain. Diolch i gefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae ein cymorth ariannol yn agored i bawb. Mae’n fraint i ni allu gweithio gyda’r lleiaf o grwpiau lleol yr holl ffordd i elusennau’r DU gyfan, fel bod pobl a chymunedau’n gallu gwireddu eu huchelgeisiau.